<p>Gofal Diwedd Oes</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 19 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:35, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn codi mater pwysig. Roeddwn i ar fai yn anghofio ei longyfarch, wrth gwrs, ar ei briodas ddiweddar, a'i ymroddiad i ddod yn ôl yma. Credaf nad oedd hwnnw’n ddewis iddo ei wynebu, ond, serch hynny, mae ef yma. Ond fy llongyfarchiadau, yn amlwg, iddo ef a'i wraig newydd.

Mae clefyd niwronau motor yn salwch ofnadwy. Mae’n datblygu’n gyflym iawn fel rheol. Weithiau, mae'n symud yn gyflymach mewn rhai pobl nag eraill. Mae'n anodd rhagweld cyflymder datblygiad y salwch, ond, yn anffodus, wrth gwrs, mae'n hysbys beth mae'r salwch yn ei wneud i'r corff yn y pen draw. Rydym ni eisiau gweithio gyda'r elusennau clefyd niwronau motor i sicrhau bod lefel y gofal yn iawn i'r unigolyn, gan ein bod ni’n gwybod nad yw'n bosib rhagweld gydag unrhyw gywirdeb sut y bydd y clefyd yn datblygu o ran ei gyflymder, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn gweithio gyda'r elusennau clefyd niwronau motor er mwyn ei gyflawni.