<p>'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl'</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 19 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 1:53, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Fodd bynnag, ymddengys fod y Prif Weinidog wedi trafod gyda Phrif Weinidog yr Alban a datblygu strategaeth a dull ar y cyd â Llywodraeth yr Alban. Onid yw'r Prif Weinidog yn sylweddoli bod Cymru wedi pleidleisio 'gadael' yn y refferendwm? Dywedodd ei hun fod gan hynny lawer i'w wneud â symudiad rhydd pobl, ac eto mae ei ddogfen yma yn cefnogi symudiad rhydd pobl ym mhopeth ond enw. Yn hytrach na pharhau i fewnforio pobl i redeg ein GIG, oni ddylem ni fod yn hyfforddi pobl yma yng Nghymru, a pham, ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth dan arweiniad Llafur, mae'r ddogfen hon yn dweud bod angen gwneud gwaith sylweddol o hyd i gyflawni hynny?