Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 19 Medi 2017.
Pam mae gennym ni dramorwyr yn ein GIG? Onid dyna’r hyn y mae'n ei ddweud, mewn gwirionedd? Dyna beth yw hyn. Mae'r gwasanaeth iechyd gwladol, fel gwasanaeth iechyd unrhyw wlad arall yn y byd datblygedig, bob amser yn dibynnu ar feddygon o wledydd eraill. Nid wyf i’n poeni o ble mae meddygon yn dod cyn belled â’u bod yn dda a’u bod yn darparu gwasanaethau ar gyfer ein pobl. Dyna sy'n cyfrif yn y pen draw. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn gwybod ble y cawsant eu geni; mae gen i ddiddordeb yn eu sgiliau meddygol. Dyna beth sydd gen i i'w ddweud wrtho.
Ydw, rwyf i wedi siarad â Phrif Weinidog yr Alban am y mater hwn. Unwaith eto, dywedaf wrtho nad yw’r dehongliad y rhoddodd ef a'i gyn-blaid ar y bleidlais y llynedd yn ddehongliad yr wyf i’n ei rannu. Y cwbl yr ydym ni’n ei wybod yw bod pobl wedi pleidleisio i adael yr UE. Ni wnaethant bleidleisio dros Brexit caled. Rhoddwyd y cyfle iddynt bleidleisio dros Brexit caled ym mis Mehefin; ni wnaethant bleidleisio dros Brexit caled, ac felly mae'n gyfrifoldeb i bob un ohonom ni yn y Siambr hon geisio dehongli'r safbwynt yr oedd gan bobl ar hynny. Ond mae'n rhaid i mi ddweud na ddywedodd neb wrthyf i ar garreg y drws—dim un person, hyd yn oed pobl a oedd yn gefnogwyr mwyaf brwd Brexit y gallwch chi eu dychmygu—'Yr hyn sydd ei angen arnom yw llai o feddygon o dramor yn y wlad hon'. Ni ddywedodd neb hynny. Ac felly, ymgais yw hon, yn y ddogfen hon, i gyflwyno safbwynt ar sut y gellir gwneud i fudo weithio yn y dyfodol. Nid ydym wedi clywed dim gan ei blaid bresennol na'i blaid flaenorol i ychwanegu at y ddadl honno.