Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 19 Medi 2017.
Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu a phartneriaid i fynd i'r afael â chaethwasiaeth, sy'n cynnwys llafur dan orfod. Ym mis Mawrth, lansiwyd ein cod ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi i wneud cadwyni cyflenwi yn dryloyw ac atal camfanteisio ar weithwyr—sy’n torri tir newydd, yn wir, i Gymru ac i'r DU.