2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Medi 2017.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â llafur dan orfod yng Nghymru? (OAQ51050)
Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu a phartneriaid i fynd i'r afael â chaethwasiaeth, sy'n cynnwys llafur dan orfod. Ym mis Mawrth, lansiwyd ein cod ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi i wneud cadwyni cyflenwi yn dryloyw ac atal camfanteisio ar weithwyr—sy’n torri tir newydd, yn wir, i Gymru ac i'r DU.
Diolchaf i chi am yr ateb yna. Dywedodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn ddiweddar bod caethwasiaeth fodern neu lafur dan orfod mor gyffredin erbyn hyn fel bod pobl gyffredin yn debygol o ddod i gysylltiad heb yn wybod â dioddefwyr bob un dydd, a bod y dioddefwyr hynny i'w gweld yn y diwydiannau allweddol, gan dynnu sylw penodol at amaethyddiaeth, gofal cartref a chymdeithasol, pysgota, prosesu bwyd, golchi ceir, ac adeiladu. Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, dim ond cwmnïau â throsiant blynyddol o £36 miliwn y flwyddyn y mae'n rhaid iddynt ddatgan pa gamau maen nhw wedi eu cymryd i atal caethwasiaeth yn eu cadwyni cyflenwi. Rwy'n credu y byddwch chi’n cytuno nad yw'r rhan fwyaf o gwmnïau yng Nghymru yn cyrraedd y trothwy. Felly, Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda chydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth Cymru am ei gynigion ar gyfer cod ymarfer y gallai cwmnïau gytuno i gyd-fynd ag ef yn wirfoddol?
Wel, lansiwyd y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol a chadwyni cyflenwi gennym ym mis Mawrth. Ei nod oedd cynorthwyo busnesau i wneud cadwyni cyflenwi yn dryloyw ac i atal gweithwyr rhag dioddef camfanteisio. Fel y dywedais, mae hynny’n torri tir newydd i Gymru a'r DU. Gwn fod grŵp arweinyddiaeth gwrth-gaethwasiaeth Cymru yn codi'r broblem o gaethwasiaeth trwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth, oherwydd—a gwn ei bod hi’n angerddol ynglŷn â hyn—rydym ni eisiau sicrhau bod Cymru’n elyniaethus i gaethwasiaeth.
Prif Weinidog, mae cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth Cymru, Stephen Chapman, wedi cyfaddef y gallai fod achosion o gaethwasiaeth fodern yn sector gofal cymdeithasol Cymru. Mae wedi dweud bod hyn yn digwydd yn rhywle. Ar draws sector mor fawr yng Nghymru, mae’n bosibl iawn y gallai problemau fod ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi gyhoeddus. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau, lle mae gwasanaethau'n cael eu darparu gan ein cyrff cyhoeddus yng Nghymru, y ceir mesur pendant a chadarn i atal unrhyw fath o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru?
Wel, drwy'r hyfforddiant, wrth gwrs, yr wyf i wedi nodi eisoes y mae’r grŵp arweinyddiaeth wedi ei ddatblygu, ac yn ail, wrth gwrs, drwy'r cod ymarfer ei hun. Gwn fod y cydgysylltydd yn angerddol o ran sicrhau ein bod ni'n gyrru caethwasiaeth allan, hyd yn oed lle mae'n gudd, wrth gwrs, mewn rhai sefydliadau. Mae'n sôn am y sector gofal cymdeithasol. Nid oedd yn honni bod ganddi dystiolaeth, er tegwch, bod hynny’n digwydd, ond roedd hi'n dyfynnu’r hyn a allai fod yn digwydd yng Nghymru. Rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda'r cydgysylltydd i sicrhau bod Cymru, fel y dywedais, yn elyniaethus i gaethwasiaeth.
Prif Weinidog, tynnais eich sylw ychydig amser yn ôl at hanes y mewnfudwyr hynny sy’n cael eu gorfodi i weithio yn y diwydiant glanhau ceir. Nodais eu bod nhw’n gweithio am lai na £3.50 yr awr, 10 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos—o dan amodau llafur caethweision i bob pwrpas. Eich ateb ar y pryd oedd nad oedd hyn yn rhan o gylch gwaith Llywodraeth Cymru. Wel, o gofio bod problem llafur caethweision yng Nghymru yn un sy’n tyfu—adroddwyd am 47 o achosion yn 2014, 71 yn 2015 a 124 o achosion yn 2016—onid yw'n ddyletswydd nawr ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei holl bwerau i ymyrryd, gan gynnwys ysgogi llywodraeth leol i archwilio'r posibilrwydd o gau'r cyfleusterau ysgeler hyn?
Wel, mae’r grym hwnnw gan lywodraeth leol eisoes, wrth gwrs, o ran ei hymrwymiadau safonau masnach. Os oes gan yr Aelod dystiolaeth bod hynny'n digwydd, byddaf yn falch o edrych ar y dystiolaeth honno ac yna ei rhannu gyda’r awdurdod erlyn priodol. Mae'r hyn y mae'n ei ddisgrifio yn annerbyniol, ond mae'n hollbwysig bod tystiolaeth ar gael i allu bwrw ymlaen â hyn, yn y pen draw, neu gyda’r gobaith, wrth gwrs, o erlyniad llwyddiannus.