Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 19 Medi 2017.
Wel, lansiwyd y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol a chadwyni cyflenwi gennym ym mis Mawrth. Ei nod oedd cynorthwyo busnesau i wneud cadwyni cyflenwi yn dryloyw ac i atal gweithwyr rhag dioddef camfanteisio. Fel y dywedais, mae hynny’n torri tir newydd i Gymru a'r DU. Gwn fod grŵp arweinyddiaeth gwrth-gaethwasiaeth Cymru yn codi'r broblem o gaethwasiaeth trwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth, oherwydd—a gwn ei bod hi’n angerddol ynglŷn â hyn—rydym ni eisiau sicrhau bod Cymru’n elyniaethus i gaethwasiaeth.