Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 19 Medi 2017.
Mae ein fframwaith ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol wrthi’n cael ei adolygu ar hyn o bryd. Rydym ni wedi cydweithio'n agos â phobl anabl a sefydliadau anabledd ledled Cymru i sicrhau ein bod ni’n gwneud cynnydd pendant i hybu a diogelu hawliau pobl anabl ac, wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni’n parhau i’w wneud yn y dyfodol.