Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 19 Medi 2017.
Byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol, wrth gwrs, gyflawni eu rhwymedigaethau i bobl anabl a rhoi digon o arian o'r neilltu i’w hanghenion ariannol gael eu cydnabod a'u bodloni. Wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn atebol i'w hetholwyr os byddant yn dilyn polisïau y mae'r etholaeth yn credu eu bod yn annerbyniol.