Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 19 Medi 2017.
Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am ddod â hynny i'n sylw. Gwyddom y bu Biliau arloesol iawn o’r meinciau cefn, rhai sydd—. Llwyddodd Julie Morgan i gyflwyno un ar ddeddfwriaeth gwelyau haul pan oedd hi'n Aelod Seneddol. Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar hyn—mae'n berthnasol iawn, yn amlwg, i'n gweithlu ni yma yng Nghymru—ac edrych ar y Bil Aelod preifat, ‘protect our protectors’, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau gweld bod gwersi yn cael eu dysgu neu’r hyn y byddwn yn ei wneud os na fydd yn llwyddo.