– Senedd Cymru am 2:18 pm ar 19 Medi 2017.
Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw’r datganiad busnes, ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt, i wneud y datganiad.
Diolch, Llywydd. Fel y bydd yr Aelodau yn gweld, mae gennyf nifer o newidiadau i agenda heddiw. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiadau yn fuan ar 'Ffyniant i Bawb—Y Strategaeth Genedlaethol', ac yn dilyn hynny, bydd datganiad ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Yna bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cyflwyno datganiad ar bapur polisi Llywodraeth Cymru, ‘Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl’. Yn olaf, bydd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar y cynllun cyflawni ar gyfer rheoli tybaco 2017-2020. Ac mae'r busnes am y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad a welir ym mhapurau’r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Arweinydd y tŷ, a oes modd cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth am y gwelliannau ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac rwy’n defnyddio'r gair 'gwelliannau', oherwydd yn amlwg pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau bydd yn welliant sylweddol ar y cyfleoedd trafnidiaeth sydd gan fusnesau yn y rhan arbennig honno o’r byd. Ond yn ddiweddar, mae busnesau o fy rhanbarth i fy hun wedi bod yn dod ataf yn tynnu sylw at ffyrdd wedi’u cau, ciwiau ar y ffyrdd, tagfeydd traffig ac ati yn y rhan hon o'r rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru. Mae hyn wedi cael effaith uniongyrchol ar eu proffidioldeb ac, yn wir, eu gallu i ehangu oherwydd eu bod ar ddeall bod y gwaith adeiladu ar ei hôl hi’n sylweddol, ac y bydd y cyfnod cyn i’r gwaith ddod i ben yn sylweddol hwy. Rwyf i wedi clywed enghreifftiau o 12 i 18 mis yn hwy, ac felly dyna pam yr wyf i’n gofyn am ddatganiad fel y gallwn ni gael eglurhad o sut yn union y mae'r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo. A yw'r prosiect wedi aros o fewn y gyllideb? Ac, yn bwysicaf oll, pa ffydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i fusnesau yn y de-ddwyrain fod y gwaith yn mynd rhagddo yn unol â’r amserlen, ac er bod hyn yn achosi problemau byrdymor, y dylid goddef hynny i ryw raddau ac y bydd y manteision hirdymor yn werth y boen yn y pen draw? Ond, ar hyn o bryd, mae llawer o fusnesau yn y de-ddwyrain, ac yn enwedig yng Nghanol De Cymru, o’r farn eu bod yn dioddef y boen heb unrhyw arwydd o ddatrysiad yn y pen draw. Pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi datganiad am gynnydd y gwaith, byddwn i’n gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn.
Byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ysgrifennu at yr Aelodau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am yr amserlen. Yn sicr, ar ôl teithio, yn wir, ar y rhan newydd wych sy'n mynd â chi y tu hwnt i Lynebwy a gweld unwaith eto sut y mae buddsoddiad cronfeydd Ewropeaidd—rydych chi'n gweld yr arwydd mawr, 'Wedi'i ariannu gan gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd', ac mae'n amlwg bod y gwelliannau yn gwneud gwahaniaeth mawr yn barod. Ond o ran y rhan olaf o’r ffordd, a oedd bob amser yn mynd i fod y rhan anoddaf o ran peirianneg, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr amserlen ddiweddaraf.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch unrhyw gynnydd a wnaed ar sefydlu'r ymchwiliad cyhoeddus i waed halogedig ac a fu unrhyw gysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ar y mater hwn?
Yn gynharach yn y mis hwn, roeddwn i’n falch o fynd i gyfarfod grŵp hollbleidiol San Steffan ar waed halogedig, dan gadeiryddiaeth Diana Johnson AS, i weld a oedd unrhyw ffordd o gael rhyw fath o safbwynt unedig rhwng Cymru a'r ASau yn San Steffan. Yng Nghymru, yn sicr, mae'r grŵp trawsbleidiol, Hemoffilia Cymru a Llywodraeth Cymru i gyd yn y bôn yn canu’r un gân: bod arnom eisiau ymchwiliad cyhoeddus dan arweiniad barnwr—ymchwiliad statudol—dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, ond ymddengys bod ansicrwydd ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan mewn gwirionedd. Felly, tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd roi datganiad i ddweud wrthym beth yw'r sefyllfa hyd y gŵyr ef.
Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn yna, a hefyd am roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei hymgysylltiad gweithredol iawn drwy fynd i gyfarfod o’r grŵp trawsbleidiol yn Llundain lle, wrth gwrs, mae Hemoffilia Cymru wedi bod yn ddylanwadol iawn o ran gweithio gyda sefydliadau sy'n cynrychioli pobl sydd wedi dioddef, o ganlyniad i'r gwaed halogedig. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei gwneud yn glir y dylai'r ymchwiliad edrych yn fanwl ar bob elfen er mwyn datgelu’r gwir ynghylch yr hyn a ddigwyddodd. Mae Vaughan Gething wedi ysgrifennu at yr Adran Iechyd, yn cefnogi'r alwad am ymholiad o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, i ennyn hyder y rhai hynny y mae'n ceisio eu gwasanaethu. Deallaf fod ymgynghoriad y DU wedi ei ymestyn i 18 Hydref i alluogi pawb yr effeithiwyd arnyn nhw, i fynegi eu barn.
Rydw i’n ymwybodol bod yna ddadl yfory, neu drafodaeth bolisi o gwmpas cael gwared ar y cynghorau iechyd cymunedol, ond mae’r pwynt rydw i eisiau codi’n ymwneud yn fwy penodol â phrosesau ymgynghori ehangach y Llywodraeth yma. Buaswn i’n falch i gael datganiad oddi wrth yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb—yr Ysgrifennydd cyllid, hyd y gwelaf i, sy’n gyfrifol am ymwneud â’r cyhoedd a rheoli perfformiad—jest i ddeall yn union beth yw’r cyfundrefnau ffurfiol y mae’r Llywodraeth yma wedi mabwysiadu pan mae’n dod i wahanol fathau o ymgynghoriadau. Beth yw’r safonau y mae’r Llywodraeth yn disgwyl eu cwrdd mewn prosesau o’r fath a pha fesurau monitro sydd yn eu lle i sicrhau bod y safonau yna’n cael eu cyfarfod?
Rŷm ni wedi clywed, er enghraifft, na chafodd y cynghorau iechyd cymunedol wybod bod y Papur Gwyn yn mynd i gynnig eu ddiddymu nhw cyn iddo gael ei gyhoeddi. A phan ofynnwyd pam nad oedd cyfres helaeth o ddigwyddiadau ymgynghori o gwmpas y Papur Gwyn, mi ddywedwyd bod llawer o’r rheini wedi’u cynnal mewn perthynas â’r Papur Gwyrdd, ond, wrth gwrs, nid oedd y Papur Gwyrdd yn cynnig diddymu’r cynghorau iechyd cymunedol, felly, yn amlwg, mae yna gwestiynau yn fanna ynglŷn â’r broses ymgynghori. Erbyn hyn, wrth gwrs, rŷm ni’n deall bod yna ddigwyddiadau wedi’u trefnu, ond bod y rheini wedi’u trefnu ar frys ar y funud olaf gyda phob math o honiadau ynglŷn â sut y mae’r rheini wedi cael eu trefnu. Y cyfan mae hynny’n ei wneud, wrth gwrs, yw tanseilio ffydd y cyhoedd yn y broses ymgynghori, ond hefyd tanseilio ffydd y cyhoedd yn y penderfyniad terfynol pan fydd hwnnw’n cael ei wneud.
Nawr, y flwyddyn ddiwethaf, fe gynhaliodd cyngor iechyd cymuned y gogledd dros 500 o ymweliadau dirybudd â wardiau ysbyty yng ngogledd Cymru—llawer iawn, iawn, iawn yn fwy nag unrhyw gorff arall sydd yn gwneud unrhyw beth tebyg. Ac os ydy Cymru yn symud at fodel tebyg i’r Alban, sydd, gyda llaw, wedi cael ei disgrifio fel rhyw fochdew diddannedd, yna’r peth lleiaf y gallwn ni ei ddisgwyl yn fy marn i yw ymgynghoriad trylwyr, ystyrlon a theg, ac nid yr hyn sydd wedi cael ei ddisgrifio i fi fel yr hyn rŷm ni’n ei gael nawr, sydd yn ymgynghoriad brysiog ac amaturaidd.
Wel, rwyf i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn, ac wrth gwrs, cyn y ddadl yfory, ein bod yn pwysleisio—a gwn y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ddweud—ein bod yn croesawu pob cyfraniad i'r ymgynghoriad. Papur Gwyn yw hwn. Bydd ymgynghoriadau yn sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol mor effeithiol â phosibl, ac wrth gwrs mae'n bwysig cydnabod nad yw’r cynigion yn y Papur Gwyn yn ymwneud â’r Cynghorau Iechyd Cymuned yn unig, er eu bod yn canolbwyntio ar hynny, ond bod y cynigion hefyd yn ystyried sut y gallwch chi gryfhau llais y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sydd yn amlwg yn fater allweddol o ran y defnyddwyr gwasanaeth hynny, a hefyd i wella ansawdd a threfn lywodraethu y gwasanaethau hynny yng Nghymru.
Rwy’n ymwybodol bod cadeirydd y bwrdd cynghorau iechyd cymuned wedi anfon llythyr agored at arweinwyr y pleidiau, ac rwy'n sicr bod nifer o Aelodau wedi cyfarfod â chynrychiolwyr cynghorau iechyd cymuned yn ystod yr haf. Rwy'n credu ei bod yn glir iawn mai'r ymateb sy’n dod i’r amlwg cyn diwedd yr ymgynghoriad hwn yw bod angen i ni ddysgu sut y gallwn ni fwrw ymlaen â hyn i sicrhau bod cyrff y dyfodol yn annibynnol ac yn gallu clywed gan bobl yn uniongyrchol, gan gynnwys clywed yn uniongyrchol gan bobl wrth iddyn nhw dderbyn gofal. Mae'r pwyntiau hyn yn cael eu gwneud, wrth gwrs, gan y Cynghorau Iechyd Cymuned eu hunain. A’r cynigion hynny, lle mae’r rhai hynny yn ymwneud â llais y cyhoedd yn y Papur Gwyn —mae'r ymatebion hynny ar lefel uchel ac rydym ni eisiau sicrhau bod unrhyw gorff a sefydlir, yn cynrychioli dinasyddion mewn iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwirionedd. Felly, unwaith eto, mae'r pwyntiau hyn i gyd yn ddefnyddiol.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf yn ymwneud â defnyddio Orkambi i drin pobl yng Nghymru sy’n dioddef ffibrosis cystig. Yn ei ateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig ar 15 Awst eleni, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd y feddyginiaeth hon ar gael fel rheol oherwydd ei chost uchel a’r manteision clinigol cymharol fach. Aeth ati i ddweud nad oedd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan wedi derbyn ymateb gan y gweithgynhyrchwyr, Vertex, ynghylch arfarniad arall. Rwyf i wedi cael gwybod erbyn hyn bod Vertex wedi cyflwyno cais, sy'n cael ei adolygu gan y grŵp. A gaf i ofyn am ymrwymiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i wneud datganiad cyn gynted ag y bo modd ar ôl i'r adolygiad hwn ddod i ben er mwyn i’r rhai sy’n dioddef o’r afiechyd difrifol hwn gael yr holl wybodaeth am ba un a yw Orkambi ar gael?
Yn ail, a gaf i ofyn pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu dweud pa un a fydd cyllid ar gyfer menter tîm ymateb i godymau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn parhau, gan fod y cynllun treialu wedi dod i ben ar 13 Mawrth eleni? Diolch.
Diolch am y cwestiynau yna. Byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r sefyllfa o ran y cyllid sydd ar gael ar gyfer y cyffur, sydd, wrth gwrs, ar gyfer pobl â ffeibrosis systig, ac rydych chi wedi cael ymateb ym mis Awst a byddaf i’n egluro'r sefyllfa. Hefyd, er mwyn ystyried y canlyniad, wrth gwrs, yn ogystal â chydnabod llwyddiant canlyniad y cynllun treialu o ran gwasanaethau ambiwlans Cymru, bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn dymuno cydnabod y ffaith ei fod ar waith erbyn hyn mewn rhannau eraill o'r DU.
Arweinydd y tŷ, yn ystod yr haf, yr oedd yn bleser i mi gael ymweld â chlwb cinio a hwyl yn Ysgol Gynradd Penywaun, sydd yn fy etholaeth i. Roeddwn i'n falch iawn o weld bod y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar y disgyblion a gymerodd ran, yn enwedig wrth fynd i'r afael â’r broblem newyn yn ystod y gwyliau. A gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd addysg, yn myfyrio ar gynllun yr haf hwn, a hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y gwersi y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu arnyn nhw yn y dyfodol?
Yn ogystal, mis Medi yw Mis Ymwybyddiaeth Sepsis, a gan fod sepsis yn lladd 2,500 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, a wnaiff yr Ysgrifennydd dros iechyd roi’r wybodaeth ddiweddaraf ni am yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cyflwr hwn sy'n bygwth bywyd?
Diolch, Vikki Howells, am y ddau gwestiwn yna. O ran y cwestiwn cyntaf, credaf fod llawer o bobl wedi gweld y cyhoeddusrwydd cadarnhaol iawn, nid yn unig yng Nghymru, ond tu hwnt hefyd, o ran pwysigrwydd y clybiau cinio a hwyl sydd wedi'u sefydlu a'r buddsoddiad a wnaed gennym ni trwy gydol yr haf o ran gweinyddu'r cynllun hwnnw. Wrth gwrs, mae pwyslais y cynllun hefyd yn ymwneud â'r gweithgareddau cyfoethogi ac addysgol y mae'n eu cynnig i’r dysgwyr sy'n mynychu. Fe wnaethom ni dreialu hynny y llynedd. Cyhoeddwyd hynny yn 2017, ym mis Ionawr eleni, ac mae'r canfyddiadau yn galonogol iawn o ran canlyniadau iechyd, cymdeithasol ac addysgol. Ac rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, o ran y rhaglen gyfoethogi yng ngwyliau’r haf eleni.
Rwy'n credu bod eich ail bwynt yn bwysig iawn ynglŷn â sepsis. Ers 2013, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth uchel ar leihau'r niwed a’r marwolaethau y gellir eu hosgoi, a achosir gan sepsis i'r GIG yng Nghymru, ac mae’n parhau i wneud hynny. Mae llawer mwy yr ydym ni’n dymuno ei gyflawni o ran y dull gweithredu system gyfan, ac rydym yn falch bod grŵp dysgu ymateb brys Cymru i salwch acíwt yn ystyried sut y gallwn gyflwyno systemau yn ein lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, yn ogystal ag yn ein hysbytai, i allu adnabod symptomau yn gynharach o lawer i sicrhau y gallwn ymyrryd cyn gynted â phosibl.
Fel yr ydym wedi clywed eisoes heddiw, rydym ni i gyd yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, yn cyhoeddi y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cynnal asesiad o’r adolygiad bwrdd gwaith o’r gwersi a ddysgwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Ni fyddaf yn nodi'r holl fanylion eto, ond roedd hwn yn ddadansoddiad pwysig o ofal a diogelwch cleifion, ac roedd y canlyniadau yn ddifrifol. Gwelwyd diffygion ar bob lefel, o'r brig i’r gwaelod, ac nid oes unrhyw un hyd yn hyn wedi ei ddwyn i gyfrif am y diffygion hynny ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Mae llawer ohonom ar draws y rhaniad gwleidyddol, yn ogystal â Chymdeithas Feddygol Prydain, ac aelodau teulu’r fenyw a laddwyd gan Kris Wade, wedi gofyn am ymchwiliad annibynnol sy'n ystyried pob agwedd ar y mater hwn, yn hytrach nag asesiad o’r adroddiad bwrdd gwaith mewnol diffygiol hwn gan Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn unig, sydd eisoes wedi achosi gwrthdaro buddiannau yn hyn o beth.
Nid yw’r cylch gwaith yr wyf i wedi ei weld—. Er bod y Prif Weinidog yn dweud heddiw nad oedd unrhyw gylch gwaith, nid yw'r cylch gwaith yr wyf i wedi'i weld gan yr Ysgrifennydd iechyd yn mynd yn ddigon pell. Mae angen i ni sicrhau bod pawb a wnaeth gŵyn bryd hynny yn cael eu clywed, bod y dioddefwyr yn cael eu clywed, a bod teulu y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw yn cael eu clywed hefyd. Mae’n rhaid i ni gael atebolrwydd yn y broses hon, ac mae’n rhaid i ni gael rhagor o wybodaeth wrth law fel Aelodau'r Cynulliad. Felly, roeddwn i’n hynod, hynod siomedig pan glywais i’r newyddion hyn yn ystod yr haf. Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi gan Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond ni chawsom ddatganiad ysgrifenedig bryd hynny. Ond wythnos cyn i ni ddod yn ôl, cawsom ddatganiad ysgrifenedig. Mae angen datganiad llafar gan yr Ysgrifennydd Iechyd ar hyn, fel y gallwn ofyn cwestiynau perthnasol iddo ynghylch yr hyn y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ei wneud yn awr, oherwydd os nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ystyried yr adroddiad hwn, nac yn casglu eu tystiolaeth eu hunain, ni fydd hynny’n ddigon da a bydd angen i ni godi'r cwestiynau hyn eto. Ond byddwn yn annog y Llywodraeth, er lles democratiaeth agored, wrth i ni ddathlu datganoli, yn enw democratiaeth agored, i ni allu cael datganiad llafar gan yr Ysgrifennydd Iechyd.
Roedd yr ail gwestiwn yr oeddwn i’n dymuno ei ofyn yn ymwneud â gofalwyr ifanc. Cawsom ddadl gadarnhaol iawn cyn diwedd y tymor, a dywedodd y Gweinidog ei bod yn siarad â grwpiau gofalwyr ifanc. Dywedwyd wrthyf ers hynny, bod llawer o YMCAau ledled Cymru ddim yn teimlo yr ymgysylltwyd â nhw, neu y bydden nhw’n hoffi ymgysylltu â’r broses honno. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei wneud ar gyfer gofalwyr ifanc, fel y gallwn ni i gyd fod yn rhan o'r broses arbennig honno.
Diolch am y ddau gwestiwn yna. Yn dilyn y pwyntiau a wnaeth y Prif Weinidog mewn ymateb i’r adolygiad hwn, ac i ychwanegu at ei bwyntiau: wrth gwrs, byddwch chi wedi gweld y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 15 Medi, a chredaf ei bod yn bwysig cyfeirio at ei ddatganiad. Fel y dywed yn y datganiad, 'Rwyf eisiau cael fy modloni', o ran Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn benodol, oherwydd bod y rhain yn wersi i'w dysgu yn ehangach na hynny,
‘rwyf eisiau cael fy modloni bod y bwrdd iechyd wedi nodi camau priodol a bod ei ymateb yn ddigon cadarn. Rwyf hefyd eisiau sicrwydd bod trefniadau effeithiol ar waith ar draws y sefydliad i fonitro'r ffordd y mae unrhyw newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau yn cael eu gweithredu a’u hymsefydlu.’
Ac wrth gwrs, fel y gwyddoch, gofynnwyd i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gynnal asesiad annibynnol, a bydd ef yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan ddaw yr adroddiad hwnnw i law.
O ran eich ail gwestiwn, do, yn amlwg, cawsom ddadl gadarnhaol iawn. Gwn y bydd y Gweinidog yn dymuno ymgysylltu â’r Aelodau a'r pwyllgor priodol o ran datblygu camau cadarnhaol ar gyfer cefnogi ein gofalwyr ifanc.
Arweinydd y tŷ, yn dilyn y datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint yn gynharach y mis hwn a nododd na fydd y cynigion ar gyfer gwaith celf yng Nghastell y Fflint yn mynd rhagddo fel y bwriadwyd yn flaenorol, a gaf i ofyn am ddatganiad ar y mater hwn gan Lywodraeth Cymru, o ran diweddaru’r cynllun i fynd ati i fuddsoddi yng nghastell y Fflint yn y dyfodol, a hefyd bod hynny’n rhoi sicrwydd llwyr bod y buddsoddiad a glustnodwyd ar gyfer y Fflint yn dal i fynd i’r Fflint, a bod cymuned y Fflint yn cymryd rhan weithredol mewn penderfynu ar natur y buddsoddiad hwnnw yn y dyfodol?
Diolch, Hannah Blythyn, ac rwy’n credu y gallwch chi fod yn sicr o ran cefnogaeth Ysgrifennydd y Cabinet i hyn. Rydym ni wedi cydnabod nad yw’n addas bwrw ymlaen â'r cynnig ar gyfer y cerflun cylch haearn yng nghastell y Fflint. A chafwyd cyfarfodydd adeiladol a chynhyrchiol iawn â phobl leol a rhanddeiliaid ynglŷn â hyn, o ran canslo’r prosiect. Bydd y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio, ac rwyf wedi fy sicrhau ei fod wedi'i neilltuo ar gyfer y gwaith celf, i helpu i ddatblygu uwchgynllun ehangach ar gyfer y gefnfro, gan ystyried, wrth gwrs, safbwyntiau pobl leol. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth o fuddsoddiadau cyfalaf ar gyfer yr ardal, cynnal digwyddiadau a gweithgareddau, i wella dealltwriaeth o hanes y castell, ac arwyddocâd y gefnfro. Ond, wrth gwrs, bydd Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint yn rhan o hynny, i sicrhau bod yr uwchgynllun hwn yn brif flaenoriaeth.
A gaf i ofyn am ymateb gan y rheolwr busnes ar ddwy eitem o fusnes y Llywodraeth? Yn gyntaf, a gaf i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu llunio datganiad ar y sefyllfa yng Nghatalonia ar hyn o bryd? Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ddatganiad ddau neu dri diwrnod yn ôl. Mae'r sefyllfa yng Nghatalonia yn ymddangos yn llawn peryglon.
Y cefndir yw bod Llywodraeth Catalunya, gyda chymorth Senedd Catalunya, wedi galw refferendwm ar annibyniaeth ar 1 Hydref. Nid yw Llywodraeth Sbaen wedi ymgysylltu â'r broses hon o gwbl, ac mae wedi ceisio tanseilio'r broses ar bob cam. Ac rwy'n credu o ran y rhai ohonom ni sydd yn y lle hwn oherwydd refferenda—a gafodd y cytundeb ar ddyfodol y DU, refferendwm y llynedd, a, dwy flynedd yn ôl, refferendwm ar ddyfodol yr Alban, pob un wedi’i gytuno arno trwy gytundeb Caeredin, a chytundebau eraill, yn rhan o'r ffordd y mae democratiaeth seneddol yn symud ymlaen— mae’r newyddion o Catalunya ar hyn o bryd yn peri pryder mawr. Mae pethau megis symudiad amlwg a ffisegol cerbydau arfog i fyny ac i lawr y ffyrdd yn Barcelona, y brifddinas, a’r cyffiniau, a bygythiadau uniongyrchol i erlyn dros 600 o feiri tref a dinas a alwodd am refferendwm. Nid ydym ni’n sôn am bobl sy'n galw am annibyniaeth yn y fan yma; rydym ni’n sôn am bobl sy'n dweud yn syml y dylen nhw gael yr hawl i ymreolaeth yn unol â siarter y Cenhedloedd Unedig, ac mae rhai ohonyn nhw wedi dweud, 'Gawn ni refferendwm, ond byddaf i’n pleidleisio "na"’, ond maen nhw’n dal yn cael eu bygwth y byddant yn cael eu herlyn gan wladwriaeth Sbaen. A bygythiad penodol, yr wythnos hon, i dynnu cyllid yn ôl oddi wrth Lywodraeth Catalunya— tynnu yn ôl yn uniongyrchol y cyllid hwnnw sy'n caniatáu i ddatganoli weithio yng ngwladwriaeth Sbaen. Nid hon, byddwn i’n awgrymu, yw’r ffordd yr ydym ni’n ymdrîn â heriau hunaniaeth ac annibyniaeth a refferenda yn yr UE, nac yn wir yn hanes y Deyrnas Unedig—mae ein hanes diweddar ar y mater hwn wedi bod yn amlwg iawn ac yn eglur i bawb.
Felly, byddwn i’n gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i gefnogi'r hyn a ddywedwyd gan Lywodraeth yr Alban; mae seneddau a llywodraethau eraill wedi cyhoeddi datganiadau tebyg yn yr UE hefyd. Rwy'n credu y byddai pobl Catalunya yn croesawu’r gefnogaeth honno yn fawr iawn. A hoffwn i atgoffa’r Aelodau o’r rhan bwysig y chwaraeodd Catalunya yn rhyfel cartref Sbaen, a'r cysylltiadau cryf sydd gan lawer ohonom, oherwydd yng Nghatalunya yr oedd llawer o ryfelwyr Cymru yn ymladd ar y pryd.
Rwyf i hefyd yn gobeithio y gallwn ni fel senedd ddod at ein gilydd—. Mae'n fater ar wahân. Rwy’n gwybod mai hi yw rheolwr busnes Llywodraeth Cymru, ond rwy'n gobeithio y gallwn ni fel senedd hefyd lofnodi llythyr yn cefnogi'r egwyddor o wneud y penderfyniadau hyn—nid 'ie' neu 'nage' i annibyniaeth fel y cyfryw, ond i’r egwyddor o ganiatáu i senedd a llywodraeth wneud penderfyniad i roi ystyriaeth i farn ei phobl, trwy refferendwm. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr iawn y gall y Llywodraeth fod yn gadarnhaol iawn ynghylch y galw hwnnw.
Os caf i yn awr droi at fater llawer mwy plwyfol, Llywydd, ac atgoffa'r Siambr, bod Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams, ar 11 Gorffennaf, cyn i ni gau am doriad yr haf, wedi gwneud datganiad yn dweud ei bod yn bwriadu codi ffioedd dysgu yng Nghymru, a bod hynny'n arwydd ei bod hi wedi dwyn perswâd ar y Cabinet Llafur, wrth gwrs, i fabwysiadu polisi llwyddiannus iawn y Democratiaid Rhyddfrydol ar ffioedd dysgu. Felly, hoffwn i, yn awr, gael gwybod gan y rheolwr busnes, oherwydd ni allaf ei weld yn digwydd yn ystod y tair wythnos nesaf, pryd y byddwn yn trafod ac yn pleidleisio ar yr offerynnau statudol a ddaw yn sgil cynnyddu’r ffioedd dysgu yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei gweld hi yn ei swydd arall, fel chwip, ei gweld yn gorfodi’r meinciau cefn i bleidleisio dros godi ffioedd dysgu yma yng Nghymru ar ôl, wrth gwrs, iddyn nhw ei wrthwynebu'n llwyddiannus â chymorth y DUP yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos diwethaf, a arweiniodd at Jeremy Corbyn a'i holl gefnogwyr yn dawnsio ar y stryd yn sgil y fuddugoliaeth wych hon i beidio â chodi ffioedd dysgu yn Lloegr. Felly, gadewch i ni weld a allwn ni ailadrodd y fuddugoliaeth honno yng Nghymru. A fydd hi’n ddigon dewr i ddod ag offeryn statudol i'r Siambr hon er mwyn i ni gael pleidleisio arno? Ac efallai y gall rhai ohonom ni bleidleisio yn unol â pholisi'r Blaid Lafur.
Wel, rwy’n credu, o ran eich cwestiwn cyntaf, Simon Thomas, wrth gwrs, mae gan Gymru gysylltiadau cryf iawn—hanesyddol, diwylliannol ac economaidd—â Chatalonia ac nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gyhoeddi datganiad. Rwy'n credu eich bod chi wedi deall y pwynt yn dda o ran y datblygiad y prynhawn hwn. Rwyf i hefyd yn credu ein bod ni’n nodi eich pwyntiau o ran beth yw ein polisïau arloesol o ran ariannu addysg uwch ac addysg bellach. Rydym ni’n nodi eich pwynt.
Rwy'n siŵr bod y rheolwr busnes yn ymwybodol o’r Bil Aelod preifat sydd yn mynd drwy Dŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd yn enw’r AS dros y Rhondda, Chris Bryant. Mae wedi’i seilio ar yr ymgyrch Protect the Protectors, sy’n ystyried cynyddu—atgyfnerthu— y ddeddfwriaeth, yr addysg, amddiffyniad y gweithlu, nid yn unig i aelodau'r gwasanaethau heddlu sy'n ymdrin â digwyddiadau brys, ond y gwasanaethau tân, parafeddygon ac eraill hefyd. Rwyf i hefyd yn datgan buddiant, gan fod fy ngwraig i’n gweithio fel radiograffydd mewn adran damweiniau ac achosion brys ar nosweithiau prysur. Yn rhy aml maen nhw hefyd yn gweld y dystiolaeth o ymosodiadau treisgar yn eu gwaith ac ni ddylai hynny fod yn dderbyniol.
Y rheswm yr wyf i’n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet perthnasol ystyried rhoi datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn, yw oherwydd y byddai'n galluogi Llywodraeth Cymru i ddangos ei chefnogaeth i’r egwyddorion y tu ôl i’r bil hwn, ond hefyd i amlinellu, os bydd y Bil hwn yn methu, oherwydd bu ymdrechion blaenorol i basio, mewn gwirionedd, Bil amddiffyn yr amddiffynwyr yn San Steffan—. Roedd yr ymgais gyntaf gan Holly Lynch, ar ffurf Bil Rheol Sefydlog Rhif 23, ym mis Chwefror eleni, ac erbyn hyn mae'n mynd rhagddo— yn llwyddiannus rydym ni’n gobeithio—yn enw yr AS dros y Rhondda. Ond os nad yw’n llwyddo, rwy'n siŵr bod lle i Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru, o fewn ei gymwyseddau datganoledig, yn arbennig ym meysydd gwasanaethau cyhoeddus, ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud os nad yw Llywodraeth y DU a Senedd y DU yn fodlon rhoi rhwydd hynt i'r Bil yn enw yr AS dros y Rhondda. Felly, gofynnaf am ystyried datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru maes o law ar sut y gallai gefnogi'r egwyddorion ac ystyried o bosibl ein dewis amgen yng Nghymru.
Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am ddod â hynny i'n sylw. Gwyddom y bu Biliau arloesol iawn o’r meinciau cefn, rhai sydd—. Llwyddodd Julie Morgan i gyflwyno un ar ddeddfwriaeth gwelyau haul pan oedd hi'n Aelod Seneddol. Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar hyn—mae'n berthnasol iawn, yn amlwg, i'n gweithlu ni yma yng Nghymru—ac edrych ar y Bil Aelod preifat, ‘protect our protectors’, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau gweld bod gwersi yn cael eu dysgu neu’r hyn y byddwn yn ei wneud os na fydd yn llwyddo.
Diolch i arweinydd y tŷ.