Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 19 Medi 2017.
Diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei sylwadau. Mae'n debyg mai'r cwestiwn na ofynnodd, ac yr wyf yn siŵr y caiff ei ofyn, yw ‘Beth yw diben y ddogfen hon?’, ac rwy’n deall hynny. Wel, mae'n iawn i ddweud y byddwn yn ymhelaethu ar y ddogfen ei hun, wrth gwrs. Diben y ddogfen hon yw ei bod yn rhoi i Aelodau'r Cynulliad hwn ac i’r cyhoedd y fframwaith y bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud o fewn iddo. Wrth gwrs bydd hyn yn arwain Gweinidogion. Bydd pob penderfyniad a wneir gan Weinidogion yn cael ei fesur yn ôl yr hyn sydd yn y ddogfen hon, a'r uchelgeisiau yn y ddogfen hon a'r pum maes blaenoriaeth. Fel y soniais yn y datganiad ei hun, bydd cynlluniau gweithredu pellach a gânt eu datblygu yn ystod y misoedd nesaf.
Soniodd am sut i weithio ar draws y sector cyhoeddus. Wrth gwrs, byddwn yn ceisio cyflwyno Bil llywodraeth leol a fydd yn helpu i arwain at fwy o gysondeb mewn llywodraeth leol.
Gan ddod i'r pwynt a wnaeth yn olaf, mae'n iawn i ddweud ein bod ni'n dymuno, fel Llywodraeth, i benderfyniadau gael eu gwneud mor agos â phosibl i gymunedau pobl, ond rydym wedi canfod yn y gorffennol—gwnaeth hyn sbarduno’r ddeddfwriaeth flaenorol nad oedd yn llwyddiannus—bod hynny'n arwain at anghysondeb anferth, lle nad yw rhai cynghorau yn gallu darparu gwasanaethau yn y ffordd y dylent. Cymerwyd rheolaeth o un cyngor, Ynys Môn, oherwydd iddo fethu yn gyfan gwbl. Ar un adeg, roedd chwe chyngor—chwe awdurdod addysg lleol—mewn mesurau arbennig dros addysg. Nawr ni all hynny fod yn iawn. Sut, felly, ydym ni’n datrys hynny? Bydd y Bil llywodraeth leol yn ceisio gwneud hynny er mwyn ysgogi mwy o gysondeb, er mwyn cynorthwyo cynghorau i gyflawni’n well, a chyflawni darpariaeth gyson rhwng rhanbarthau. Nid wyf yn credu y gall unrhyw un esgus ein bod wedi cael system gadarn o lywodraeth leol dros yr 20 mlynedd diwethaf lle mae pob un cyngor bob amser wedi cyflawni fel y byddai pobl yn ei ddisgwyl. Yn amlwg nid dyna yw’r sefyllfa. Felly, er ei bod hi’n bwysig i wneud penderfyniadau yn lleol, mae’n rhaid inni ofalu nad oes anghysondeb mawr yn digwydd, oherwydd hynny, a bydd y Bil yn helpu i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.
Mae'n sôn am ystadegau economaidd. Gallwn gyfnewid hyn yn ôl a blaen. Fel y dywedais yn gynharach yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, mae’r gyfradd ddiweithdra bellach yn 4.3 y cant. Nid dyna'r ffigwr llawn; mae yna ormod o bobl sydd yn dal heb ddiogelwch gyflogaeth. Rwy'n deall hynny. Ond rydym ni wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu buddsoddiad i Gymru na fyddem erioed wedi'i gael o'r blaen. Mae Aston Martin yn un enghraifft. Rydym wedi llwyddo i achub ein maes awyr; byddai hwnnw, i fod yn blwmp ac yn blaen, wedi cau. Yn y dyddiau cyn datganoli, ni fyddai neb wedi ei achub; erbyn hyn mae'n ffynnu. Ein diwydiant dur—rydym ni wedi gallu gweithredu fel eiriolwyr cryf dros ein diwydiant dur er mwyn sicrhau bod y swyddi hynny'n aros yng Nghymru. ProAct a ReAct: roeddynt yn gynlluniau blaenllaw gyda’r gorau yn y byd, ac fe wnaethon nhw helpu i gadw pobl mewn swyddi pan roedd y dirwasgiad ar ei gryfaf—swyddi a fyddai fel arall wedi cael eu colli.
Mae'n cyfeirio at y ffaith, ac mae’r ffaith honno’n wir, bod gwahaniaethau rhanbarthol mewn gwerth ychwanegol gros yng Nghymru. Un o'r problemau yn yr ardaloedd sy'n agos i Gaerdydd yw bod cymaint o bobl yn byw mewn siroedd eraill ond yn gweithio yng Nghaerdydd. Nawr, rwy'n byw yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd. Gan fy mod i'n gweithio yng Nghaerdydd, rwy'n cael fy nghyfrif yn dreth economaidd—efallai y bydd rhai pobl yn dweud bod hynny'n wir beth bynnag, ond yn dreth economaidd ar orllewin Cymru a'r Cymoedd, oherwydd fy mod yn cael fy nhalu yng Nghaerdydd ac rwy'n gweithio yng Nghaerdydd, ac mae hynny'n rhan o'r broblem. Mae cymaint o bobl yn dod i Gaerdydd i gymudo, mae’n gostwng gwerth ychwanegol gros yr ardaloedd o'i chwmpas mewn ffordd nad yw'n bodoli mewn gwirionedd mewn mannau eraill a oedd â statws Amcan 1 o'r blaen. Nid dyna'r esboniad cyfan, wrth gwrs, oherwydd sgiliau yw'r ffordd arall o gynyddu gwerth ychwanegol gros. Nawr, un o'r materion y mae darpar fuddsoddwyr yn ein holi yn ei gylch yw: ‘Os ydym ni'n dod i Gymru, a oes gan eich pobl y sgiliau y mae eu hangen arnom ni i fod yn llwyddiannus?’ Ac, yn gynyddol, gellir ateb hynny'n gadarnhaol. Yn y gorffennol, nid ystyriwyd sgiliau'n bwysig; cyflog isel oedd yn bwysig: dewch i Gymru oherwydd bod y lefelau cyflog yn isel. Wel, mae'r dyddiau hynny ar ben. Nawr, rydym ni eisiau sicrhau ein bod yn denu buddsoddiad ar y sail bod ein lefelau sgiliau yn uchel.
Ond wrth gwrs, yr her fawr i ni yw mai ein marchnad allforio fwyaf yw marchnad sengl Ewrop: mae 67 y cant o'n hallforion yn mynd yno. Ni allwn ni newid hynny. Mae'n amhosibl newid hynny. A pham y byddem ni yn dymuno newid hynny beth bynnag? Mae'n farchnad enfawr ar garreg ein drws. Ni all yr Unol Daleithiau gymryd ei le; mae'n llai ac mae’n bellach i ffwrdd. Ni all Japan gymryd ei le—eto, mae’n bellach i ffwrdd ac yn llai. Ac felly mae’n rhaid ystyried heriau Brexit—a byddwn ni’n dod atyn nhw; bydd hon yn ddadl y byddwn ni, wrth gwrs, yn ei chael am fisoedd a blynyddoedd yn y Siambr hon—trwy'r telesgop o sicrhau'r mynediad gorau posibl—cyfranogiad yn y farchnad sengl, mynediad llawn heb rwystr i’r farchnad sengl, ond y mynediad hawsaf i'r farchnad sengl y gallwn ei gael ar gyfer busnesau Cymru, oherwydd dyna eu marchnad fwyaf a ni ellir cymryd ei lle yn rhwydd.
Soniodd am ‘iach a gweithgar’—mae yna heriau ym mhob gwasanaeth iechyd. Mae Lloegr newydd gofrestru'r nifer mwyaf erioed o bobl ar restrau aros, ac mae heriau y mae Lloegr yn eu hwynebu hefyd. Gwyddom yng Nghymru ein bod wedi gweld gwelliannau mewn rhai meysydd lle mae amseroedd aros wedi gostwng. Mewn meysydd eraill, mae gwaith i'w wneud o hyd. Rydym ni bob amser wedi cydnabod hynny. Ond rydym yn gwybod bod adroddiadau annibynnol wedi dangos bod y gwasanaethau iechyd ledled y DU yn gyfartal ar y cyfan.
‘Uchelgeisiol ac sy’n dysgu’—soniodd am hynny. Wel, byddwn i'n dadlau ein bod yn gweld y gwahaniaeth nawr. Ein canlyniadau TGAU yw'r rhai gorau erioed. Roeddwn yn edrych ar y graff ar gyfer canlyniadau TGAU yn y dyddiau cyn datganoli, pan gafodd llai na hanner y bobl ifanc bump A* i C yn eu TGAU, ac mae'r ffigur hwnnw bellach wedi dringo'n bell y tu hwnt i hynny. Cafwyd gwahaniaeth enfawr yn yr amser hwnnw. Mae’r canlyniadau TGAU y gorau erioed. Rydym ni’n gweld gostyngiadau yn y bwlch cyrhaeddiad. Mae'r grant amddifadedd disgyblion wedi gwneud gwahaniaethau ledled Cymru ac mae hynny'n rhywbeth sy'n gweithio i gymaint o bobl ifanc.
Yn olaf, o ran ‘unedig a chysylltiedig’—. Wel, yr ateb yr wyf i bob amser yn ei roi pan fydd pobl yn dweud, ‘Wel, mae’r Cynulliad yng Nghaerdydd; beth mae'n ei olygu i ogledd Cymru?’—Rwy’n dweud, ‘Wel, mae tri Ysgrifennydd y Cabinet yn y Llywodraeth sy'n dod o etholaethau’r gogledd’. Mae hynny'n lefel enfawr o gynrychiolaeth. Nid oes neb yn Llywodraeth y DU o etholaeth yng ngogledd Cymru. Ond mae llais y gogledd yn gryf iawn. Mae'n rhaid iddo fod. Mae 60 ohonom ni yma. Daw o leiaf chwarter yr Aelodau, fel yr wyf yn ei gyfrif, o'r gogledd. Wrth gwrs, mae'r llais hwnnw'n gryf; yr un fath ar gyfer Cymru wledig, yr un fath ar gyfer canolbarth a gorllewin ein gwlad—llais llawer cryfach nag a fu erioed yn y dyddiau cyn datganoli. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae'n ei ddweud ynglŷn â datganoli i'r rhanbarthau. Unwaith eto, rwy’n amau bod barn yr Ysgrifennydd Gwladol a’i ffordd o wneud hynny ychydig yn wahanol i’w un ef. Rwy'n credu mai barn yr Ysgrifennydd Gwladol yw, ‘Gadewch i ni osgoi Llywodraeth Cymru a siarad â chynghorau'n uniongyrchol’. Nid yw hynny, yn amlwg, yn farn yr ydym yn ei rannu, er ein bod yn derbyn yr egwyddor o ddatganoli cymaint â phosib.