Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 19 Medi 2017.
Fel Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, sy’n aml yn derbyn dogfennau strategaeth y Llywodraeth—ac maen nhw'n dod yn aml iawn—byddwch yn aml yn pendilio rhwng cyflwr o ddryswch a chyflwr o anobaith. Mae'n rhaid i mi ddweud, ar ôl darllen y ddogfen hon yn gyflym y prynhawn yma, rwy'n teimlo cymysgedd o'r ddau. Dryswch oherwydd rwy’n credu fy mod wedi camddeall mai dyma fyddai dyddiad cyhoeddi'r strategaeth economaidd newydd. Nid fi yw’r unig un, oherwydd sylwais fod Lee Waters wedi trydar ddoe:
Cyn lansiad strategaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru yfory, rwyf wedi nodi rhai o’m meddyliau yn Western Mail heddiw, ac erthygl dda iawn oedd hi hefyd. A dyma ble yr ydym ni'n dod at yr anobaith, oherwydd roedd syniadau gwell, mwy diddorol a mwy gwreiddiol yn yr erthygl un dudalen honno na sydd yn y ddogfen hon.
Mewn gwirionedd, yr hyn sydd gennym ni yma—. Cofiwch ein bod ni—[Torri ar draws.] Ac os oeddwn i yno, rwy'n siŵr y byddai'r un peth yn wir am friff busnes Hefin David yr wythnos nesaf. ‘Cyn cyhoeddi strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru'—mae angen i chi wella eich cyfathrebu mewnol o leiaf.
Yr hyn sydd gennym ni, mewn gwirionedd, yw fersiwn lawnach o ‘Symud Cymru Ymlaen’, a gyhoeddwyd y llynedd. Mae'n fath o ‘Symud Cymru Ymlaen’ ar steroids, mewn gwirionedd, onid yw? Mae wedi tyfu o 15 tudalen i 27, felly ni all neb gyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio â gwneud cynnydd. Dyna gynnydd o 100 y cant yng ngynhyrchiant Llywodraeth Cymru.
Roedd gennym ni bedair strategaeth drawsbynciol. Nawr mae gennym ni—beth yw e’—pum blaenoriaeth drawsbynciol, a phedair thema allweddol a thri chynllun gweithredu. Yn sicr, ni allwch chi eu cyhuddo o beidio â bod yn gynhwysfawr.
Nid oes gennyf yr amser i fynd ar ôl yr holl rai hynny, ond hoffwn ganolbwyntio ar un, ac, o ystyried y buom yn dathlu 20 mlynedd ers 1997 a datganoli, gadewch i ni ganolbwyntio ar yr economi, gan mai dyna oedd y cam mawr ymlaen i fod, y difidend datganoli. Fel y cyfeiriwyd ato eisoes, mewn gwirionedd, mae'r cynnydd yn y fan honno wedi bod yn gyfyngedig wrth gwrs. Gan edrych ar y 18 pwynt bwled—dyna'r cyfan ydyw, os ydych chi'n chwilio am gyfuchliniau'r strategaeth economaidd newydd, 18 pwynt bwled ar draws dwy dudalen—rwy'n ceisio deall, felly, beth y mae hynny’n dweud wrthym ni am gynnwys y strategaeth economaidd newydd. Efallai y bydd y Prif Weinidog yn gallu fy helpu. Y cwestiwn cyntaf yw: a dderbynnir graddfa’r her, mewn gwirionedd? Rwy’n credu eu bod ar feinciau cefn yr ochr sy’n llywodraethu. Nid wyf yn siŵr eu bod ar y fainc flaen. Oherwydd, fel y cyfeiriwyd ato eisoes, ym 1997, ble yr oeddem ni? Saith deg pedwar pwynt un y cant o werth ychwanegol gros y pen. Ble ydym ni nawr yn y ffigurau diweddaraf? Saith deg un y cant. Rydym ni wedi mynd ar yn ôl. Yr oeddem yn seithfed ar y cyfan, gyda llaw, o ran y 12 rhanbarth economaidd safonol yn y DU. Hyd yn oed ar hoff ddangosydd economaidd Llywodraeth Cymru, sef incwm gwario gros aelwydydd y pen, rydym ni hefyd wedi mynd ar yn ôl—87.8 y cant i 85.3 y cant. Felly, a dderbynnir graddfa'r her? Yn ei sylwadau yn gynharach y prynhawn yma, dywedodd y Prif Weinidog ein bod, yn y 1990au, yn wlad yr oedd pobl ifanc yn awyddus i’w gadael. Wel, mewn gwirionedd, gwelsom adroddiad dros yr haf gan y Resolution Foundation yn dangos bod pobl ifanc galluog yn gadael Cymru. Collodd Cymru fwy o raddedigion rhwng 2016—colled net o dros 20,000 o raddedigion yn ystod y cyfnod hwnnw. Rydym ni'n ddegfed o'r 12 rhanbarth safonol yn y Deyrnas Unedig o ran nifer y graddedigion a gollir.
Yn ail, a fydd yna dargedau? Rydym ni wedi cael cynnydd anhygoel o wael. Sut allwn ni fesur, mewn gwirionedd, a ydym ni yn mynd i fod â record well o gyflawni yn y dyfodol? Oherwydd, fel y dywedodd Chris Kelsey, ychydig iawn o fanylion a dim ond ychydig o dargedau penodol a geir yn y strategaeth hon. A lle mae'r awydd, yr awch—yr wyf yn ei synhwyro, i fod yn deg, ar feinciau cefn Llafur—am newid radicalaidd o ran strategaeth? Yn y bôn, rydym wedi dilyn yr un strategaeth am 40, 50 mlynedd, sydd, yn ei hanfod, yn dibynnu ar fuddsoddiad uniongyrchol o dramor. Dyna'r cyfan. Rydym ni wedi torri’r gwys honno. Ac i beth? Ble mae'r awydd yn y 18 pwynt bwled hyn am dderbyn na fydd y strategaeth honno'n ein gwasanaethu'n dda yn y dyfodol, ac felly bod angen syniadau newydd radicalaidd arnom?
Yn olaf, ar ddiwrnod olaf y tymor, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet eich bod yn bwriadu cyhoeddi'r strategaeth drawsbynciol hon ac yna y byddai rhaglen ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid. Rwy'n credu mai jargon yw hynny am ‘siarad â phobl’. Wel, fe wnes i ychydig o siarad dros y penwythnos, oherwydd roeddwn i eisiau gwybod beth fyddai yn y strategaeth economaidd hon nad oedd yn ymddangos, ac fe siaradais i â rhai pobl fusnes blaenllaw yr wyf yn eu hadnabod ac a fydd yn adnabyddus i lawer o’r bobl yma; Siaradais â rhai o economegwyr blaenllaw Cymru. Nid oedd yr un ohonynt yn gwybod beth fyddai yn y strategaeth economaidd nac yn y pwyntiau bwled gan nad oedd neb o Lywodraeth Cymru wedi siarad â nhw. Felly, ar ba sail ydych chi wedi llunio'r 18 pwynt bwled hyn? Pwy ydych chi wedi siarad â nhw? Oherwydd, rwy’n ofni mai’r hyn a gawn ni pan fyddwn ni'n gweld y cynllun gweithredu economaidd o’r diwedd, fydd, unwaith eto, cyfrwng gwag heb unrhyw sylwedd.