Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 19 Medi 2017.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'n memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae'r memorandwm hwnnw'n nodi'n fanwl yr agweddau hynny ar y Bil sy'n gofyn am gydsyniad y Cynulliad, ac mae'n disgrifio'n glir iawn pam nad ydym yn derbyn y Bil yn ei ffurf bresennol. Nid wyf yn bwriadu cyflwyno’r dadleuon hynny'n fanwl eto. Yn hytrach, hoffwn i ganolbwyntio ar yr ateb adeiladol, y mae’r gwelliannau a gyhoeddwyd yn eu cynrychioli, sef ateb i broblem a grëwyd yn gyfan gwbl gan Lywodraeth y DU i’w hun, ac un y gellid fod wedi'i hosgoi pe bai ymgais wirioneddol i ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig ar gynnwys y Bil hwn. Nid ydym yn brathu. Byddai wedi bod yn llawer haws inni fod wedi cael y drafodaeth hon beth amser yn ôl.
Gadewch i mi, yn gyntaf, fod yn glir iawn am ein dull cyffredinol ni o ymdrin â’r materion y mae'r Bil yn ceisio mynd i'r afael â nhw. I wneud y pwynt cyntaf ac amlwg, nid yw cyflwyno'r gwelliannau hyn yn ymwneud â herio egwyddor Brexit. Nid ydynt yn herio canlyniad y refferendwm, ond mae'n rhaid i ni fod â Brexit sy'n parchu’r datganoli, a bwriad y gwelliannau hyn yw sicrhau hynny. Rydym bob tro wedi cydnabod yr angen i baratoi ein cyfreithiau ar gyfer ymadael â’r UE, ac yn cytuno bod angen deddfwriaeth i roi eglurder a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau wrth i ni adael yr UE.
Cytunwn ei bod yn gwneud synnwyr i gyfraith yr UE gael ei throsi i amryw gyfreithiau'r DU ar adeg yr ymadael, ac mai trwy ddeddfu ar gyfer y DU gyfan yn Senedd San Steffan y bydd hyn yn digwydd orau. Ac rydym yn cytuno bod angen pwerau dirprwyedig ar Weinidogion i wneud y gwelliannau technegol niferus iawn y bydd eu hangen i sicrhau bod y gyfraith yn parhau i weithio'n briodol. Rydym ni bob amser wedi derbyn y bydd meysydd polisi a fydd yn gofyn am gytundeb gan y pedair Llywodraeth i sicrhau, pan fyddwn ni y tu allan i'r UE, na fyddwn yn gwneud unrhyw beth i atal llif rhydd masnach yn y DU. A gwnaethom esbonio sut y dylid ymdrin â hyn yn ein dogfen bolisi, 'Brexit a Datganoli', sy'n cyflwyno dull clir ac ymarferol, sy'n parchu datganoli ac yn ateb y cwestiynau ar sut i sicrhau tegwch ledled y DU o ran polisïau lle mae fframweithiau rheoleiddio yr UE, hyd yma, wedi darparu hyn.
Ond, nid yw'r Bil fel y mae ar hyn o bryd yn addas i'w ddiben. Ni fyddai'n sicrhau y caiff holl gyfraith yr UE ei throsglwyddo i lyfr statud y DU: mae hepgor y siarter hawliau sylfaenol yn un amlwg ac wedi’i wneud am resymau gwleidyddol. Byddai'n rhoi pwerau ysgubol i Weinidogion y DU ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol, ac mae'n ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli. Byddai'n disodli'r cyfyngiadau presennol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad hwn, a fydd yn diflannu wrth i'r DU adael yr UE, cyfyngiadau, y dylid nodi, sydd yr un mor berthnasol i Senedd y DU, a dim mwy na allwn ni ddeddfu mewn ffyrdd sy'n anghydnaws â chyfraith yr UE, gyda chyfres newydd o gyfyngiadau a fyddai'n berthnasol i'r sefydliadau datganoledig yn unig ac a fyddai’n cael eu rheoli gan Lywodraeth y DU.
Felly, rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth yr Alban i ddatblygu cyfres o welliannau a fydd yn ceisio mynd i'r afael â diffygion y Bil sy’n ymwneud â datganoli. Disgrifiaf yn fyr beth mae'r gwelliannau hyn yn ceisio'i gyflawni, ond cyn i mi wneud hynny, mae angen i mi ddweud unwaith eto nad yw hyn yn ymwneud mewn unrhyw fodd â cheisio rhwystro neu wrthdroi'r broses o ymadael â’r UE. I'r rhai hynny sy'n parhau i honni hyn, estynnaf yn syml wahoddiad iddyn nhw nodi pa rai o'n gwelliannau a fyddai, pe’u derbynnir, yn cael effaith o’r fath.
Llywydd, mae'r gwelliannau a gyhoeddwyd gennym yn ceisio cyflawni pedwar amcan. Yn gyntaf, maen nhw'n diddymu’r cyfyngiad newydd a roddir ar gymhwysedd y deddfwrfeydd a'r Llywodraethau datganoledig sy'n rhoi holl gyfraith yr UE a gedwir y tu hwnt i'n pwerau ni i gyd, trwy ei throi'n gyfraith ddomestig. Mae hon yn ddarpariaeth gwbl ddiangen sy'n torri ar draws egwyddorion y setliad datganoli. Fel y nodais eisoes, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig dewis arall adeiladol i'r cyfyngiad hwn, sy’n cynnwys y DU a gweinyddiaethau datganoledig yn cytuno ar fframweithiau cyffredin pan fo angen er lles y DU yn gyffredinol. Pe baent wedi dewis ymgysylltu â ni ar hyn, efallai na fyddai fod wedi angen y cymal 11 nodedig.
Yn ail, mae'r diwygiadau yn atal y pwerau dirprwyedig eang a roddir i Weinidogion y DU rhag cael eu defnyddio i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 neu Ddeddf yr Alban 1998, neu’n mynnu bod angen caniatâd y weinyddiaeth ddatganoledig i wneud hynny. Ni all fod yn iawn bod modd i Weinidogion y DU ddiwygio Deddfau o’r fath arwyddocâd cyfansoddiadol heb gytundeb y deddfwrfeydd datganoledig, nac yn wir Senedd y DU ei hun, o dan y rheolau a’r confensiynau sefydledig presennol.
Yn drydydd, maen nhw'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion y DU geisio caniatâd y gweinyddiaethau datganoledig os ydynt yn defnyddio eu pwerau dirprwyedig mewn meysydd sydd â chyfrifoldeb datganoledig. Rydym yn cydnabod y gallai fod amgylchiadau, am resymau ymarferol, pan fo’n gwneud synnwyr i Weinidogion y DU ddefnyddio eu pwerau yn y modd hwn, ond ni allwn dderbyn y dylent allu gwneud hynny heb ein caniatâd.
Yn olaf, mae'r gwelliannau yn dileu cyfyngiadau ar y pwerau dirprwyedig a roddir i weinyddiaethau datganoledig fel eu bod yn unol â'r rhai hynny a roddir i Weinidogion y DU. Nid oes unrhyw sail i osod cyfyngiadau ar bwerau gweinyddiaethau datganoledig nad ydynt hefyd yn berthnasol i Weinidogion y DU. Gadewch i mi fod yn glir, fodd bynnag: nid yw hyn yn golygu ein bod yn dymuno'r pwerau ysgubol sydd wedi'u cynnwys yn y Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd. Fel llawer o bobl eraill, mae gennym bryderon ynghylch ehangder y pwerau a’r craffu prin ar eu defnydd y mae'r Bil yn ei ddarparu, a byddwn yn fodlon cefnogi gwelliannau a gyflwynwyd gerbron y Senedd i sicrhau bod y pwerau a roddir i Lywodraeth y DU, a ni ein hunain fel Gweinidogion, yn briodol.
Llywydd, ddoe, siaradais mewn digwyddiad a drefnwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig i nodi ugeinfed pen-blwydd y refferendwm datganoli. Mae yna eironi chwerw yn y ffaith fy mod i’n sefyll yma heddiw yn gwneud datganiad ar Fil y DU sy'n cynrychioli'r bygythiad mwyaf, y byddwn i'n dadlau, i'n setliad datganoli ers y diwrnod yr enillwyd y refferendwm. Rwy’n gobeithio’n fawr iawn, felly, y bydd Llywodraeth y DU yn ailfeddwl ei dull o weithredu’r agweddau datganoli ar y Bil hwn.
Rwy'n gobeithio y byddan nhw, a'r holl Aelodau yma, yn cydnabod bod y gwelliannau hyn yn gyfraniad adeiladol a fyddai'n sicrhau'r eglurder a'r sicrwydd y mae pob un ohonom yn cytuno sy’n angenrheidiol, ac yn parchu setliadau datganoli caled y DU. Nid yw'n ymwneud ag atal Brexit; mae'n ymwneud ag amddiffyn buddiannau pobl Cymru. Rydyn ni'n fodlon ac yn barod i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb ar y Bil, ond os byddan nhw’n parhau â hyn beth bynnag, byddan nhw’n ysgogi argyfwng cyfansoddiadol nad oes ei angen arnyn nhw ac nad ydym ni’n ei ddymuno.