Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 19 Medi 2017.
Fel y dywedais yn y ddadl ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yma ar 18 Gorffennaf, mae angen i’r Bil sicrhau y gall y llyfr statud weithredu ar y diwrnod y byddwn yn gadael yr UE. Mae'n dechnegol ei natur, yn sicrhau bod deddfwriaeth anweithredol yn weithredol, ac yn rhoi pŵer â chyfyngiad amser i lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i gywiro deddfau yn ôl is-ddeddfwriaeth na fyddai’n gweithredu’n iawn fel arall ar ôl i ni adael yr UE, gan sicrhau y gall busnesau Cymru, gan gynnwys ffermwyr a chynhyrchwyr dur, barhau i fasnachu yn yr UE yn syth ar ôl i'r DU adael yr UE. Felly, croesawaf eich cytundeb yn fawr ei bod yn gwneud synnwyr i gyfraith yr UE gael ei throsi'n gyfraith y DU ar y sail hon ac mai trwy ddeddfu ar gyfer y DU gyfan yn Senedd San Steffan y bydd hyn yn digwydd orau. Rydym ni hefyd, fel chi, bob amser wedi derbyn y bydd meysydd polisi a fydd yn gofyn am gytundeb gan y pedair Llywodraeth i sicrhau, pan fyddwn ni y tu allan i'r UE, nad ydym yn gwneud unrhyw beth i atal y llif rhydd o fasnach yn y Deyrnas Unedig.
Ond wedyn rydych yn parhau i ddweud, fodd bynnag, bod y Bil
'yn cynrychioli ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli', sy'n adlewyrchu'n fawr iawn y sylwadau a wnaethoch ar y diwrnod y cyhoeddwyd y Bil, pan wnaethoch chi ei ddisgrifio, ac rwy’n dyfynnu, fel ‘ymgais hyf i fachu pŵer’. Pam wnaethoch chi ddweud hynny bryd hynny, o gofio eich bod wedi dweud y diwrnod wedyn bod Ysgrifennydd Cymru wedi eich sicrhau y byddech chi a fe yn cydweithio i greu sefyllfa dderbyniol, a’ch bod wedi cael y sicrwydd hwnnw eisoes cyn cyhoeddi eich sylw am 'ymgais hyf i fachu pŵer’?
Rydych chi’n datgan mai'r dewis adeiladol arall fyddai i'r DU a gweinyddiaethau datganoledig gytuno ar fframweithiau cyffredin pan fo angen er lles y DU yn gyffredinol, ac wrth gwrs, rydym yn cytuno â chi’n gyfan gwbl ar y pwynt hwnnw. Bydd Cymal 11, yr ydych wedi cyfeirio ato, yn rhewi pwerau cyfredol y Cynulliad i basio deddfau ar ôl diwrnod yr ymadael. Ond mae'r Bil hefyd yn darparu mecanwaith ar gyfer dadrewi neu ryddhau'r pwerau hyn i'r deddfwrfeydd datganoledig yn ddiweddarach trwy Orchmynion yn y Cyngor. Fodd bynnag, nid yw'n—[Torri ar draws.] Datganiad o ffaith yw hynny; rwy'n datgan ffaith yn syml. Fodd bynnag, rwy’n siŵr y byddwch chi hefyd yn cytuno nad yw'n cynnwys yr hyn a elwir—[Torri ar draws.] Dyna mae'n ei ddweud. Nid yw'n cynnwys yr hyn a elwir yn 'gymal machlud', ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n ei resynu hefyd oherwydd ein bod yn credu bod angen fframweithiau cytûn ar gyfer y DU gyfan, sy'n parchu'r setliadau datganoli mewn meysydd datganoledig megis amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd, a bod meysydd anghydfod posibl hefyd, megis meysydd cymhwysedd dros fasnach, cyflogaeth ac, wrth gwrs, feysydd megis cymorth gwladwriaethol. Felly, cynigiais ym mis Gorffennaf y gallem ni edrych ar fodel a nododd y gallai'r cyfyngiad ar gymhwysedd datganoledig ddod i ben pan ddaw fframweithiau cytûn cyffredin i rym. Beth yw barn y Prif Weinidog ar y model hwnnw, o ystyried ei bryder ynghylch absenoldeb, rwy’n dyfynnu, 'cymal machlud', ond hefyd y risg y gallai hyn arwain at orfodaeth yn hytrach na chytundeb y fframweithiau y mae pob un ohonom yn ei geisio?
Fel y dywedais ar ddiwedd dadl mis Gorffennaf, gadewch i ni fynd drwy'r Bil yn gyfrifol, nodi'r newidiadau y gallwn ni i gyd gytuno arnynt—ac yn amlwg mae rhai—ac ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'r Senedd i'w cyflwyno yn yr Ail Ddarlleniad. Nid yw fy mhlaid i wedi clywed dim oddi wrthych ers hynny, Brif Weinidog. A wnewch chi ddweud pam nad ydym ni wedi ymgysylltu â’n gilydd ar dir cyffredin ac efallai y byddai gweithio ar y cyd yn ddefnyddiol o bosibl wedi helpu i symud pethau ymlaen?
Rwyf hefyd yn clywed gan y Swyddfa Gymreig y bydd y materion yr wyf wedi'u codi gyda nhw, sy'n gyson â’r sylwadau yr wyf eisoes wedi'u gwneud a phynciau allweddol a godwyd gan y gweinyddiaethau datganoledig a rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru, yn sicr yn cael eu bwydo i gamau nesaf y Bil. Ond dywedasant wrthyf hefyd fod llawer o ymgysylltu wedi bod â swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystod yr haf. A wnewch chi roi ychydig mwy o fanylion i ni am yr ymgysylltiad hwnnw ac i ba raddau y mae'n gysylltiedig â'r pryderon yr ydych wedi'u hamlygu a'r symud sydd wedi digwydd, yn ôl pob tebyg, rhwng y ddau grŵp o swyddogion, i geisio ffordd ymlaen ar hyn? Diolch.