Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 19 Medi 2017.
Mae datganiad heddiw yn cynrychioli diweddariad pwysig arall ar Fil ymadael â’r UE ac ymateb Cymru. Rydym ni, ym Mhlaid Cymru, wedi bod yn gyson ein safbwynt ers cyhoeddi refferendwm yr UE bod yn rhaid amddiffyn buddiant cenedlaethol Cymru. Mae hynny'n golygu dull o weithredu y mae pawb sydd wedi ymrwymo i warchod pwerau'r Cynulliad hwn a'r wlad hon yn cyfrannu ato, a hynny er gwaethaf yr anghytuno rhwng ein pleidiau ynghylch pa gamau penodol y mae'n rhaid eu cymryd.
Ym mis Ionawr eleni, anogais Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth yr Alban ar ddull gweithredu ar y cyd, yn unol â'n buddiannau cyffredin, ac rwy'n falch o weld datblygiad cyd-welliannau, gan gyflawni yr hyn y mae Plaid Cymru wedi galw amdano. Rydym ni, wrth gwrs, yn bwriadu cefnogi'r gwelliannau hynny ar y cam priodol. Bydd Plaid Cymru hefyd yn cyflwyno ein gwelliannau ein hunain drwy hynt y Bil ymadael â’r UE yn San Steffan, a gallaf sicrhau'r Siambr hon y bydd ein ASau, a Dafydd Wigley yn yr ail Siambr, yn defnyddio pob cyfle sydd ganddynt i wthio gwelliannau sy'n atal San Steffan rhag bachu pŵer yn y dyfodol. Rydym hefyd yn cyflwyno gwelliannau sy'n ceisio amddiffyn ein haelodaeth o'r farchnad sengl a’r undeb tollau, ac sy'n ceisio atal dadreoleiddio a’r ras i'r gwaelod pan fydd y DU yn gadael asiantaethau rheoleiddio amrywiol yr UE.
Rwyf am ailadrodd rhywbeth yr wyf wedi'i ddweud yn y Siambr hon yn y gorffennol. Bydd Bil ymadael â’r UE a'r ymdrechion i'w wella yn dechnegol iawn, ac ni fyddem yn disgwyl iddo fod yn sgwrs yn y dafarn neu'r gweithle, ond, 20 mlynedd ers y bleidlais 'ie' gyntaf, mae un peth y mae pobl yn ei ddeall ac yn siarad amdano. Maen nhw’n gwybod y bu dwy bleidlais i gadarnhau pwerau'r Cynulliad hwn, ac nid yw dinasyddion Cymru yn cefnogi’r cyfyngu ar y pwerau hynny na’u lleihau. Felly, hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog a yw wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol honno yn y Cynulliad ac yn union sut y bydd yn gweithio. A fyddai'n cytuno y dylai Llywodraeth y DU ymrwymo i dderbyn canlyniad cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y lle hwn, yn ogystal ag mewn unrhyw senedd arall? Wrth gwrs, mae cynsail o'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Cymru, yr ymrwymodd Llywodraeth y DU i’w gydnabod. Tybed a wnaiff amlinellu pa gamau y gellir eu cymryd os yw Llywodraeth y DU yn anwybyddu pleidlais i wrthod caniatâd.