Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 19 Medi 2017.
Byddaf yn osgoi ymgais i ddechrau dadl ar economeg; arhosaf am y ddadl nesaf ar yr economi er mwyn ildio i'r demtasiwn honno. Ond fel y dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, bydd gennym ni system fewnfudo sy'n gweddu i'r DU, nid yn cau'r drws yn glep—ond yn croesawu'r doniau sydd eu hangen arnom ni, o'r UE ac o’r holl fyd. Wrth gwrs, byddwn yn sicrhau bod busnes yn cael y sgiliau sydd eu hangen arno, ond ni fydd busnes yn gallu defnyddio mewnfudo yn esgus i beidio â buddsoddi ym mhobl ifanc y wlad hon.
Ac maen nhw wedi dweud y byddan nhw’n cyflwyno eu cynigion cychwynnol am system fewnfudo newydd yn yr hydref eleni.
O ystyried, fel y cyfeiriais ato yn gynharach fod cadarnhad gan Swyddfa Cymru fod llawer iawn o ymgysylltiad â swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion yn Llywodraeth y DU wedi digwydd—ac rwy’n pwysleisio Llywodraeth y DU ac nid Swyddfa Cymru yn unig—dros yr haf, o ran yr hyn, ac eithrio'r papur hwn, sydd wedi cael ei drafod, pa ddatblygiadau, os o gwbl, sydd wedi deillio hyd yn hyn o hynny?
Fel chwithau, rydym o blaid gweithredu i sicrhau talu'r isafswm cyflog a gorfodi deddfwriaeth i fynd i'r afael â chamfanteisio ar gyflogeion, ni waeth o ble y maen nhw’n dod. Mae llawer o hynny, yn amlwg, heb ei ddatganoli ond mae llawer a allai fod o fewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig, ac nid yn lleiaf gasglu tystiolaeth yn y dirgel. Pa swyddogaeth, neu swyddogaeth ehangach, beth bynnag fyddo canlyniad y model mewnfudo a fabwysiedir yn y dyfodol, yr ydych chi'n teimlo y gallai Llywodraeth Cymru ei chyflawni wrth symud hynny ymlaen?
Mae'r datganiad hwn, yn amlwg, yn ymwneud â mudo, ac nid â mater hollol wahanol ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, fel y gwn y deallwch chi ac y credwch yn gryf ynddo. A wnewch chi ddatganiad clir, er mwyn i’r cyhoedd gael gwybod, fod hynny’n wir a bod pawb ohonom yn cefnogi gweld Cymru yn dod yn genedl noddfa—mater gwahanol i'r materion mudo sy'n cael eu trafod heddiw?
Rydych yn dweud bod eich cynnig chi yn cysylltu mudo â gwaith ac yn cefnogi eich uchelgais o fynediad llawn a dilyffeithair i'r farchnad sengl. Serch hynny, fel y dywedodd y Prif Weinidog ym mis Ionawr, byddai hynny, i bob diben a phob pwrpas, yn golygu peidio ag ymadael â’r UE o gwbl. A dyna pam y gwnaeth y ddwy ochr yn yr ymgyrch refferendwm hi'n glir y byddai pleidlais i ymadael â’r UE yn bleidlais i adael y farchnad sengl. Dywedodd hi:
Yn lle hynny, rydym yn ceisio’r mynediad gorau posibl iddi trwy gytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, hyderus ac uchelgeisiol.
Sut, felly, yr ydych chi'n ymateb i'r datganiadau yr wythnos diwethaf gan faer Llafur Manceinion Fwy, Andy Burnham, fod y Blaid Lafur mewn perygl o golli cyswllt â phleidleiswyr Brexit gogledd Lloegr pe bai’r blaid yn methu â chymryd camau i dorri i lawr ar ryddid symudiad, ac yn peryglu adlach ffyrnig gan bleidleiswyr ‘gadael’ gogledd Lloegr a allai deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu? Er mai cefnogi 'aros' a wnaeth ef yn y refferendwm, dywedodd ei fod yn gofidio am gynigion Llafur i aros yn y farchnad sengl, gan ddweud y byddai hyn bron yn sicr yn ein hatal rhag rheoli polisi mewnfudo. Dywedodd y byddai hynny’n achosi ymraniad mawr iawn os yw'n edrych yn debyg bod yna adlach o du’r sefydliad, byddai’n golygu gwrthod canlyniad y refferendwm bron ac yn rhybuddio yn erbyn Brexit Llundain-ganolog. Felly, a ydych chi'n credu, fel y gwnaf innau, y dylai Cymru sefyll gyda thrigolion gogledd Lloegr neu gyda thrigolion Llundain? Er fy mod yn hoff iawn o’r naill a’r llall ohonyn nhw, mae’n amlwg.
Rydych yn dweud y gallasai Llywodraeth y DU fod wedi rhoi yn unochrog warant o hawliau i ddinasyddion o’r fath o’r UE yn y DU, a’i bod yn anffodus wedi pallu â gwneud hynny. Mewn gwirionedd, dim ond dydd Iau diwethaf, er enghraifft, dywedodd Gweinidog cyllid y DU, Philip Hammond, fod Prydain yn agos iawn at ddod i gytundeb â'r UE ar sut i amddiffyn hawliau dinasyddion yr UE yn y DU a dinasyddion y DU yn yr UE wedi iddi adael y bloc. Efallai y bydd trafodaethau yn digwydd bob pedair wythnos, ond mae trafodaethau a deialog yn digwydd yn barhaus, ac yn ffodus mae'r safbwyntiau a gymerir gan y ddwy ochr yn symud tuag at gytundeb ar ddatrysiad i setliad yr ysgariad fel y’i gelwir.
Rydym ni o’r un farn â chi o ran cydnabod yr angen am ddiogelu'r ardal deithio cyffredin â Gweriniaeth Iwerddon a gweddill ynysoedd Prydain, ac rydym yn croesawu ymrwymiadau Llywodraeth y DU a'r UE i gadw'r ardal deithio gyffredin. Rydych yn sôn eich bod wedi pwyso am gwota mudo llawn a theg i Gymru, fel y gallech bennu eich blaenoriaethau ar gyfer mudo i Gymru. Onid yw hyn yn gwbl anymarferol heb osod rheolaethau ffin ar Glawdd Offa, fel petai? Ac yn olaf, gan nodi wrth gwrs bod Schengen yng nghyd-destun Iwerddon yn golygu bod yna—. Mae dewis Iwerddon a'r DU i eithrio o Schengen yn golygu bod yna ffin allanol o Iwerddon, os mai dyna'r hyn y gallech fod yn ei ddweud, ond yn fewnol yn y DU, byddai cwotâu yn amhosibl eu gorfodi.
Ac yn olaf, rhaid cofio bod gan Gymru'r gyfradd gyflogaeth isaf ym Mhrydain. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd o 18,000 mewn anweithgarwch economaidd i 460,000, sy'n golygu bod 525,000 o bobl o oedran gweithio yng Nghymru yn ddi-waith ar hyn o bryd. Mae llawer ohonyn nhw yn dymuno gweithio ond yn wynebu rhwystrau diwylliannol a chorfforol. Felly, ar ôl 18 mlynedd, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud yn wahanol i fynd i'r afael â'r lefelau uchel hynny o anweithgarwch economaidd a helpu'r bobl hynny i gael gwared ar y rhwystrau i weithio er mwyn i'r sgiliau a'r cryfderau sydd ganddynt helpu hefyd i gyfrannu at lenwi’r bwlch sgiliau?