Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 19 Medi 2017.
Wel, Llywydd, gadewch mi ddechrau trwy geisio dod o hyd i feysydd cyffredin gyda'r Aelod. Rwy'n falch iawn o’i roi ar gofnod, fel y gwnaeth ef, nad papur am geiswyr lloches a ffoaduriaid yw hwn, a chefnogaeth gref Llywodraeth Cymru i bolisïau lloches a ffoaduriaid sy'n croesawu pobl i Gymru sydd wedi wynebu profiadau mor ofnadwy mewn mannau eraill yn y byd ac sy'n dod yma am noddfa. Gadewch imi ddweud hefyd ein bod yn falch o'n hymddygiad yng Nghymru yn dilyn datganoli. Rydym wedi gweld gostyngiad cyflymach o ran anweithgarwch economaidd yng Nghymru nag a welwyd ar draws y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac wrth gwrs nid oes dim o gwbl yn ein dogfen ni sy'n awgrymu na fyddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i feithrin sgiliau pobl sy'n byw yng Nghymru eisoes, i greu cyfleoedd newydd i bobl sydd wedi bod y tu allan i'r gweithle ac sy'n dymuno dychwelyd iddo. Ond nid ydym yn cyd-fynd am eiliad â'r bobl hynny sydd, fel y crybwyllodd Mark Isherwood i ddechrau, yn awgrymu rywsut bod mewnfudo a phresenoldeb pobl o'r Undeb Ewropeaidd yn ein plith oherwydd bod cyflogwyr wedi defnyddio hynny yn esgus i beidio â buddsoddi mewn pobl ifanc.
Mae'r cyflogwyr yr ydw i wedi cwrdd â nhw yn ystod yr haf hwn wedi mynd allan o'u ffordd i egluro i mi y camau y maent yn eu cymryd, gan weithio gyda'u colegau addysg bellach lleol ac ati, i geisio paratoi pobl sy'n byw yn eu cymunedau i fanteisio ar y cyfleoedd am swyddi sydd ar gael. Ond hyd yn oed pan fyddan nhw wedi gwneud hynny hyd eithaf eu gallu, mae'n rhaid iddyn nhw allu denu pobl o'r tu hwnt i'w ffiniau eu hunain er mwyn sicrhau cyflogaeth barhaus y bobl sydd o'r ardaloedd lleol hynny. Llywydd, rhoddodd y Prif Weinidog enghraifft dda iawn pan gyflwynodd y papur hwn ychydig wythnosau yn ôl, o westy yng nghefn gwlad Cymru sy'n cyflogi 100 o bobl: mae 80 o'r bobl hynny yn dod o'r gymuned leol eisoes, ac mae 20 o bobl yn dod o rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd. Dywedodd y sawl sy'n rhedeg y gwesty hwnnw'n hollol glir fod swyddi'r 80 o bobl hynny yn dibynnu ar ei allu i i ddenu 20 o bobl i ddod i gefnogi'r busnes. A heb yr 20 hynny, ni fyddai gan yr 80 o bobl sy'n byw yma eisoes swyddi chwaith. Dyna pam mae ein cynigion yn gynigion sy'n iawn i Gymru, a'r Llywodraeth hon a'n cyfrifoldebau ni sy’n ganolbwynt, nid yr hyn a allai fod yn iawn mewn ardaloedd eraill, ond yr hyn sy'n iawn i Gymru. Ac rydym o'r farn fod y papur hwn, sydd ym mhrif ffrwd bragmataidd cynigion, yn ein barn ni, yn rhoi glasbrint i wneud yn union fel hynny.
A oes yna fwy y gallwn ni ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau'r hawliau a ddylai fod yno i amddiffyn pobl sy'n dod i'r gweithle trwy gyfrwng swyddi lefel mynediad ac yn y blaen? Wel, dywedais yn fy natganiad fod mwy y gallwn ei wneud ac yr ydym yn bwriadu ei wneud, gan adeiladu ar ein llwyddiant, gyda chod ymarfer ar gyflogaeth foesegol, gyda’r cod dwy haen ar ein model partneriaeth gymdeithasol, a gallaf ddweud wrth yr Aelod bod ein gweithredoedd yn yr ardal hon yn cael eu harsylwi'n ofalus a’u herio lle bo angen yng nghyngor partneriaeth y gweithlu ac mewn mannau eraill lle mae pobl sy'n gweithio gyda ni ar yr agenda hon yn dod i gynghori Llywodraeth Cymru.
Yn olaf, o ran mater y cwota mudo, gadewch imi ddweud eto, Llywydd, nad hwn yw ein polisi dewisol. Nodir hynny yn bendant yn y ddogfen. Nid dyna'r hyn y credwn y byddai'n gweithio orau i Gymru na'r Deyrnas Unedig. Ond os yw Llywodraeth y DU yn benderfynol o roi rheolaethau mudo o flaen anghenion economi'r DU ac yn penderfynu gwneud hynny trwy gwotâu mudo net, yna rydym yn argyhoeddedig y bydd system o fod â chwota i Gymru er ein lles gorau ni. Dyma'r polisi a argymhellir gan Gorfforaeth Dinas Llundain ar gyfer Llundain a chan y grŵp senedd hollbleidiol ar integreiddio cymdeithasol yn Nhŷ'r Cyffredin. Gall weithio os bydd yn rhaid inni ei roi ar waith. Nid dyma'r dull y byddem yn ei ddewis ar gyfer Cymru na'r DU.