6. 5. Datganiad: ‘Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl’

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 19 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 4:52, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am gyhoeddiad y ddogfen tegwch o ran symudiad pobl, sydd, wrth gwrs, yn ymhelaethu ar y Papur Gwyn ar y cyd a gyhoeddwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ddiweddar. Rwyf fi, fel yntau, yn ofer o bosibl, yn edrych ymlaen at yr amser pan fyddwn yn gallu cynnal dadl onest a difrifol ar fewnfudo sy'n ystyried y ffeithiau a'r gwir effaith y mae mewnfudo wedi ei chael ar ein cymdeithas a'n heconomi. Ac afraid dweud bod Plaid Cymru yn ailadrodd eto ei gwerthfawrogiad o'r rhai sy'n dod o bob cwr o'r byd i gyfrannu at gymunedau Cymru a busnesau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae croeso iddyn nhw yma ac maen nhw'n cael eu gwerthfawrogi yma.

Byddai'r model a awgrymir yn y cyhoeddiad hwn yn caniatáu i Gymru a'r Deyrnas Unedig barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl Ewropeaidd, sy'n ystyriaeth hollbwysig gan Blaid Cymru, wrth gysylltu gwaith gyda symudiad pobl ar gyfer gwladolion yr UE a’r Swisdir. Rwy'n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, mai dull pragmataidd yw hwn, ac wrth inni weld y negodwyr Prydeinig yn ymddatod wrth y bwrdd trafod ym Mrwsel, dyn a ŵyr fod angen pragmatiaeth arnom ni ar y pwynt hollbwysig hwn. Dim ond 18 mis i fynd tan ddiwrnod y gwahanu a'r fath annibendod y mae Llywodraeth Prydain ynddo.

O ran manylion y cyhoeddiad hwn heddiw, hoffwn ofyn dau gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, awgrymodd y Prif Weinidog, rwy’n credu, yn ystod amser cwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn yma, fod copi o'r ddogfen hon wedi ei hanfon at Lywodraeth Prydain, ond roeddent yn amharod i gwrdd â Llywodraeth Cymru i'w thrafod hi. Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ar hynny—a yw hwn yn fater o drefnu dyddiad neu o gael pobl Cymru i ystyried eu safle yn y teulu aruchel hwn o genhedloedd a sut y meiddiwn ni awgrymu ffordd ymlaen ar gyfer y DU gyfan ar fater polisi na ddylem ni feiddio ei drafod.

Ond yn ail—a phwynt yr anghytundeb rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a minnau a rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth—yw cwestiwn y gyfundrefn cwota neu drwydded waith sydd yn rhanbarthol neu’n wladol ledled y Deyrnas Unedig. Rwy’n credu y gwelwn ni, fel y crybwyllodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yn ei ddatganiad, y duedd sy'n digwydd yn awr, oherwydd yr arwydd a roddir gan Lywodraeth y DU i weddill y byd, ein bod yn ei chael hi'n anodd denu nifer y bobl sydd ei angen arnom i’n heconomi. A soniodd yn ei ateb blaenorol i gwestiwn blaenorol am waith Corfforaeth Dinas Llundain wrth fodelu’r ffordd y gallai trwydded gwaith yn Llundain weithredu wedi’r gwahanu. Da y gallwn ddychmygu, credaf i, gyda'r profiad sydd gennym yng ngwleidyddiaeth Cymru, sefyllfa pan gyrhaeddwn ddiwrnod y gwahanu a bydd Llywodraeth Prydain, yn daer am gadw Dinas Llundain yn ganolfan ariannol fyd-eang a’i phen uwch y dŵr ac fel yr unig fan yn naearyddiaeth y DU sy'n darparu digon o incwm i’w chynnal ei hun, yn caniatáu i Lundain gael statws arbennig yn y DU, ond neb arall. Unwaith eto, dof yn ôl at hyn. Does gen i ddim bwriad i wawdio Aelodau unoliaethol y Siambr hon, ond unoliaethwyr ydych chi ac mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i chi ei ystyried efallai dros y cyfnod sydd i ddod: os yw hwn yn deulu gwirioneddol gyfartal ac yn deulu o genhedloedd, yn sicr ni fydd yn dderbyniol i Lundain, yr unig ranbarth o'r DU sydd eisoes yn cael mantais economaidd a gwleidyddol enfawr dros bawb arall—. Mae holl adeiladwaith economaidd y Deyrnas Unedig gyfan yn seiliedig ar yr un gornel honno. Os caniateir iddyn nhw gael eu trwyddedau gwaith eu hunain, ac nid y gweddill ohonom ni, bydd hynny'n niweidiol iawn i wlad fel Cymru sydd eisoes yn agosáu at gyflogaeth lawn ac ni fydd ganddi’r gallu, wedyn, i wynebu’r diffygion yn ei sectorau cyhoeddus na phreifat, tra gall Llundain fynd o nerth i nerth yn barhaus. Byddai hynny'n annerbyniol. Rwy'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru yn modelu ar hyn o bryd, nac yn cyhoeddi ar hyn o bryd, yr effaith ar economi Cymru pe byddai triniaeth ffafriol i ddinas Llundain o ran trwyddedau gwaith rhanbarthol ac nid i Gymru. Ac mewn gwirionedd, hyd yn oed pe byddem yn cyrraedd y sefyllfa lle byddai gan ddinasyddion yr AEE yr hawl i ddod i'r DU i weithio, rwy'n dal i gredu na allai hynny fod yn ddigon i gynnal anghenion economi Cymru o ran y prinder sgiliau sydd eisoes yn cael eu gwaethygu gan y broses wahanu sydd ond megis dechrau.

Felly, byddwn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gymryd amser, efallai, i roi mwy o ystyriaeth i gyhoeddi rhagor o wybodaeth a modelu ar nid yn unig sut y gallai system drwyddedau gwaith ymhlith cenhedloedd a rhanbarthau'r DU weithredu—. Oherwydd nid ydym yn awgrymu na allai weithredu; rydym yn gwybod ei fod yn gweithredu. Mae gan bob gwladwriaeth ffederal y gallwch chi feddwl amdani—. Gyda rhai eithriadau, ond mae gan lawer o wladwriaethau ffederal y gallwch chi feddwl amdanyn nhw eisoes gwotâu gwahanol a systemau trwyddedau gwaith. Felly, fe all weithredu—mae yn gweithredu—ond nid yn unig hynny, gadewch inni beidio â cholli golwg ar y cyfle y mae'n rhaid inni ddadlau drosto nawr, yn ystod y 18 mis nesaf, cyn iddi fod yn rhy hwyr a chyn, unwaith yn rhagor, i’r wladwriaeth Brydeinig fynd â Chymru i ddistryw.