Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 19 Medi 2017.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy’n croesawu’r datganiad hwn. Rwy'n credu mai da o beth yw ei fod yn dathlu'r cyfraniad a wneir gan weithwyr Ewropeaidd yma yng Nghymru. Rwy'n credu ei fod yn ddatganiad cadarnhaol ac fel y mae llawer un wedi dweud, yn gyfraniad ymarferol, gwirioneddol i'r ddadl sy'n mynd rhagddi.
Yn bersonol, rwy'n credu bod y ddadl hyd yn hyn yn San Steffan yn edrych fel bod Llywodraeth San Steffan yn rhoi’r nod o dynnu mewnfudo i lawr y tu hwnt i anghenion economaidd y wlad, a chredaf fod hyn i gyd yn ymwneud ag amser trychinebus Theresa May yn y Swyddfa Gartref, pan fethodd hi’n llwyr â gostwng mewnfudo yn y modd yr addawodd ei wneud, ac mae hynny wedi parhau hyd heddiw. Rwy’n credu y byddai'n anffodus inni orfod dilyn unrhyw fathau o gwotâu, ond rwy’n deall pam mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwrw ymlaen â'r posibilrwydd o gwotâu rhanbarthol pe byddem yn cyrraedd y sefyllfa lle byddai’n angenrheidiol.
Rwy'n credu bod y dogfennau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynhyrchu yn ddogfennau gwerthfawr iawn i'r ddadl. Credaf fod gwybodaeth ddiddorol iawn yma y mae’n bwysig iawn i ni ddysgu ohoni. Roeddwn i o’r farn mai un o'r pwyntiau pwysig iawn yn y ddogfen hon yw'r ffigurau sy'n dangos nad yw mwyafrif helaeth dinasyddion yr UE yn bobl ifanc, sengl, ond mai rhan o uned deuluol ydyn nhw. Rwy'n credu ei fod yn dweud yno bod mwy na 20,000 o blant yn byw mewn cartrefi yng Nghymru lle mae un rhiant o leiaf yn ddinesydd yr UE. Efallai y buaswn i’n datgan diddordeb yma, oherwydd y mae tri o'm hwyrion i yn y sefyllfa honno. Ond rwy'n amau, wyddoch chi, ein bod ni yn trafod y ddadl am Brexit a symudiad teg pobl mewn termau economaidd yn bennaf ac, yn amlwg, rwy'n credu ei bod yn rhaid inni edrych ar yr effaith gymdeithasol enfawr y mae hynny'n ei chael ar fywydau teuluoedd lle mae un o’u haelodau o'r UE ac yn ansicr o'r dyfodol. Holi wyf i a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth o ran hynny. Nid yw’n syndod i mi, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatganiad, fod llawer o ddinasyddion yr UE yn gadael y wlad erbyn hyn, am nad ydyn nhw yn teimlo bod croeso iddyn nhw.
Un o'r pethau yr oeddwn i am ofyn iddo oedd ynglŷn â’r broses o gynhyrchu'r dogfennau hyn, oherwydd gwn mai un o'r grwpiau sydd wedi teimlo i’r byw am yr holl faterion hyn yw pobl ifanc, a gwn, yn yr Eisteddfod, rwy'n credu, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud ymrwymiad y byddai’n ymgynghori â phobl ifanc ynghylch y dogfennau hyn a sut y byddai rhan iddyn nhw i’w chwarae, ac mae’n amlwg fod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â phobl ifanc. Felly, rwy’n gofyn a allech chi ddweud wrthym ni a oedd pobl ifanc wedi bod â rhan yng nghynhyrchu'r ddogfen hon. Hynny yw, ni chawsant gyfle i bleidleisio, y rhai 16 ac 17 oed. Gobeithio y gallwn ni wneud rhywbeth am hynny yn y dyfodol, ond, yn amlwg, dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd.
Ac, yn olaf, rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig iawn yn y ddogfen, sef nad yw'r mewnfudo hwnnw'n gyfrifol am dynnu cyflogau i lawr; cyflogwyr diegwyddor sydd yn manteisio ar bobl sy’n agored i niwed. Ac felly rwy'n cefnogi'r ymrwymiad yn y datganiad.