Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 19 Medi 2017.
Mae'r broses o gynhyrchu'r dogfennau, y gyfres o ddogfennau, yn un yr ydym yn gwneud ein gorau ynddi i gynnwys barn a safbwyntiau ystod eang o bobl sydd â diddordeb arbennig yn y maes hwn. Mae'r ddogfen hon yn cael ei dylanwadu'n arbennig gan farn cyflogwyr, undebau llafur a sector y prifysgolion. Cafodd hyn ei drafod yn y grŵp cynghori Ewropeaidd yr wyf i'n ei gadeirio. Gwn fod y pwyllgor monitro rhaglenni y mae Julie Morgan yn ei gadeirio hefyd wedi cyfrannu at ddatblygiad y gyfres o ddogfennau yr ydym yn eu cynhyrchu, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yn yr Eisteddfod mewn digwyddiad dan gadeiryddiaeth Llyr Huws Gruffydd gerbron cynulleidfa o bobl ifanc a sefydliadau pobl ifanc am Brexit, ac mae Carl Sargeant, fy nghyd - Aelod, wedi ymrwymo i ariannu cyfres o ddigwyddiadau, gyda chymorth Plant yng Nghymru, lle gall barn a safbwyntiau pobl ifanc gael eu bwydo yn fwy uniongyrchol i broses ystyriaeth Llywodraeth Cymru o Brexit yn ei chyfanrwydd.
Rwy’n gorffen drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Julie Morgan: nid yw’n ddigon da i'r Llywodraeth, fel y dywedodd Mark Isherwood wrthym ni, ddweud nawr nad ydym yn bell iawn oddi wrth gael cytundeb ar statws pobl o’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Roedd y refferendwm ymhell dros flwyddyn yn ôl. Byddai hi wedi bod yn bosibl—. Dywedodd David Davis, yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, lawer o fisoedd yn ôl wrthyf i mai hwn oedd un o'r pethau rhwyddaf i gytuno â'r Undeb Ewropeaidd arno, a dyma ni, fisoedd lawer yn ddiweddarach, heb gytundeb ar y maes byth. Mae hynny'n golygu bod pobl sy'n byw mewn teuluoedd, yn ceisio cael siâp ar eu bywydau, yn ceisio dod o hyd i ddyfodol iddyn nhw eu hunain, wedi byw gyda'r ansicrwydd hwnnw, ac nid oes syndod bod pobl sydd â sgiliau y mae galw mawr arnynt ac sy’n rhydd iawn i symud yn penderfynu y byddai'n well ganddyn nhw fynd i rywle arall lle maen nhw’n fwy diogel eu safle ac y maen nhw’n gwybod fod y croeso yn iawn yno ar eu cyfer nhw. Gallai ac fe ddylai Llywodraeth y DU fod wedi gwneud yn siŵr nad oeddem ni yn y sefyllfa honno yn y fan hon yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd yr Athro Jonathan Portes, arbenigwr mwyaf blaenllaw y maes hwn yn y Deyrnas Unedig gyfan, ar y diwrnod y cyhoeddwyd ein hadroddiad:
Roedd papur Llywodraeth Cymru ar fewnfudo yn bopeth nad oedd papur y Swyddfa Gartref : cadarnhaol, adeiladol, seiliedig ar dystiolaeth, a dyna pam yr ydym yn gobeithio y bydd yn cael effaith ar y ddadl yma yng Nghymru, a hefyd yn ehangach yn y Deyrnas Unedig.