Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 19 Medi 2017.
Diolch. Rwy'n falch o lansio ein cynllun cyflawni Cymru ar reoli tybaco ar gyfer 2017-20. Datblygwyd y camau a gynhwysir yn y cynllun hwn i fynd i'r afael â’r defnydd o dybaco yng Nghymru, a bydd yn sicrhau bod ein gwaith yn parhau ar y trywydd cywir i leihau lefelau ysmygu i 16 y cant erbyn 2020.
Ysmygu sigaréts sy’n achosi’r nifer mwyaf o farwolaethau cynamserol yng Nghymru, gan achosi rhyw 5,450 o farwolaethau y flwyddyn. Mae clefydau sy'n gysylltiedig ag ysmygu yn ataliadwy, ac maent yn costio tua £302 miliwn i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn. Mae ysmygu hefyd yn un o’r prif bethau sy’n achosi anghydraddoldebau iechyd, gyda chyfraddau ysmygu mewn ardaloedd tlotach fwy na dwywaith yn uwch nag mewn ardaloedd cyfoethog.