7. 6. Datganiad: Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco 2017-2020

– Senedd Cymru am 5:16 pm ar 19 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:16, 19 Medi 2017

Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynllun gweithredu rheoli tybaco. Felly, rydw i’n galw ar y Gweinidog, Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n falch o lansio ein cynllun cyflawni Cymru ar reoli tybaco ar gyfer 2017-20. Datblygwyd y camau a gynhwysir yn y cynllun hwn i fynd i'r afael â’r defnydd o dybaco yng Nghymru, a bydd yn sicrhau bod ein gwaith yn parhau ar y trywydd cywir i leihau lefelau ysmygu i 16 y cant erbyn 2020.

Ysmygu sigaréts sy’n achosi’r nifer mwyaf o farwolaethau cynamserol yng Nghymru, gan achosi rhyw 5,450 o farwolaethau y flwyddyn. Mae clefydau sy'n gysylltiedig ag ysmygu yn ataliadwy, ac maent yn costio tua £302 miliwn i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn. Mae ysmygu hefyd yn un o’r prif bethau sy’n achosi anghydraddoldebau iechyd, gyda chyfraddau ysmygu mewn ardaloedd tlotach fwy na dwywaith yn uwch nag mewn ardaloedd cyfoethog.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:16, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Mae lleihau lefelau ysmygu yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'n Llywodraeth. Yn 2012, gwnaethom gyhoeddi ein cynllun cyflawni Cymru ar reoli tybaco.  Pennodd y cynllun darged i leihau lefelau ysmygu o 23 y cant yn 2010 i 16 y cant erbyn 2020. Roedd hefyd yn cyfleu gweledigaeth o gymdeithas ddi-fwg i Gymru lle caiff y niwed a achosir gan dybaco ei ddileu. Rwy'n falch o ddweud bod cynllun 2012 wedi arwain at ystod o welliannau iechyd i bobl Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys lleihau effaith mwg ail-law, mwy o gefnogaeth i'r rhai sydd eisiau rhoi'r gorau i ysmygu, a gweithredu er mwyn helpu i atal pobl rhag ifanc rhag dechrau ysmygu. Mae’r gyfradd ysmygu wedi gostwng i 19 y cant. Mae hyn yn galonogol, ond mae rhagor o waith i’w wneud. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cymryd y camau angenrheidiol os ydym ni’n bwriadu cynnal y momentwm hwn er mwyn cyflawni ein targed o 16 y cant ymhen dim ond tair blynedd.

Gan gofio hynny, sefydlwyd y bwrdd strategol rheoli tybaco y llynedd. Mae'r bwrdd, sydd dan gadeiryddiaeth y prif swyddog meddygol, a'i is-grwpiau ar gyfer rhoi'r gorau iddi, atal a lleihau effaith ysmygu, wedi gweithio'n galed i ddatblygu a chwblhau'r cynllun cyflawni hwn, a fydd yn arwain y gweithgarwch hyd at 2020, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am y gwaith hwnnw.

Mae'r cynllun yr wyf yn ei lansio heddiw yn nodi'r camau gweithredu unigol y bydd Llywodraeth Cymru a'n rhanddeiliaid yn eu cymryd i hybu gweithgarwch a'n helpu ni i gyrraedd y targed a'r weledigaeth a nodir yng nghynllun 2012. Mae'n adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn a bydd yn cael ei gefnogi gan bwerau newydd sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i'n galluogi ni i ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i rai lleoliadau awyr agored, megis tiroedd ysbytai a mannau lle mae plant yn chwarae. Bydd hefyd yn ein galluogi ni i gyflwyno mesurau eraill i annog pobl i beidio â defnyddio tybaco a gwella canlyniadau iechyd, megis cyflwyno cofrestr o fanwerthwyr o gynhyrchion tybaco a nicotin. Bydd hefyd yn ei gwneud hi'n drosedd i roi cynhyrchion tybaco neu nicotin i bobl dan 18 oed wrth ddefnyddio gwasanaethau casglu a dosbarthu i gartrefi.

Bydd y camau gweithredu yn y cynllun cyflawni yn cefnogi pobl i roi'r gorau i ysmygu ac yn helpu i atal pobl rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf. Mae nifer o gamau hefyd wedi'u cynnwys i leihau cysylltiad ag ysmygu, ac felly cael gwared ar y canfyddiad bod ysmygu yn ymddygiad arferol, bob dydd. Nod y camau hyn a'r rheoliadau newydd i ymestyn y gwaharddiad ysmygu i ardaloedd y mae plant yn eu defnyddio’n aml yw amddiffyn plant a phobl ifanc. Bydd hyn yn helpu i roi'r dechrau gorau iddynt mewn bywyd.

Ein bwriad yw bod gan bobl uchelgais i fyw yn ddi-fwg a bydd y cynllun yn cael ei lansio heddiw o dan ein brand trosfwaol Dewiswch fod yn Ddi-fwg. Datblygwyd y brand fel un a fydd yn cael ei gydnabod a'i ddefnyddio ar gyfer pob elfen o waith rheoli tybaco yng Nghymru. Mae ei enw yn cyfleu’n glir iawn yr hyn y mae'n ei olygu. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb ac yn sicrhau bod y bobl sydd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau priodol. Yn gynharach eleni, roeddwn yn falch o lansio ein gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu, Helpa Fi i Stopio, sef y gwasanaeth cyntaf i weithredu o dan ein brand newydd. Mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio i'w gwneud hi'n haws i smygwyr gael gafael ar help i roi'r gorau i ysmygu. Mae dros 40 y cant o’r smygwyr yn gwneud o leiaf un cais i roi’r gorau iddi bob blwyddyn, felly mae'n bwysig bod cynifer â phosibl o'r rhai hynny yn gofyn am help i roi'r gorau iddi gan fod hyn yn cynyddu’n sylweddol y posibilrwydd i’w hymgais i roi'r gorau iddi fod yn llwyddiannus.

Mae'r cynllun cyflawni hwn yn gyson â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a datblygwyd drwy fabwysiadu'r dulliau o weithio sy'n sail i'r Ddeddf. Mae hefyd yn un o'r ymatebion i'n strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'. Ei nod yw gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru a rhoi mwy o bwyslais ar atal.

Yn ystod oes y cynllun, bydd ein bwrdd strategol ar reoli tybaco a'i is-grwpiau yn parhau i ganolbwyntio ar gynnydd a byddant ar wyliadwriaeth am gynhyrchion tybaco newydd a chynhyrchion sy’n datblygu, sy'n bygwth yr hyn yr ydym wedi gweithio mor galed i'w gyflawni yng Nghymru ers cyflwyno'r gwaharddiad ar ysmygu 10 mlynedd yn ôl. Bydd y bwrdd yn sicrhau ein bod yn parhau i gynllunio y tu hwnt i 2020 a bydd yn gosod nodau pellach i sicrhau cymdeithas ddi-fwg.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 5:22, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Croesawaf y cynllun cyflawni. Rwy'n falch ei fod yn parhau i osod nifer o dargedau uchelgeisiol i leihau cyfraddau ysmygu. Rwy’n credu ei bod hi’n dal i fod yn gywilyddus y bydd hyd at ddwy ran o dair o smygwyr hirdymor yn marw o glefydau sy'n gysylltiedig ag ysmygu, ac rwy'n credu ei bod yn werth atgoffa ein hunain bod Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yr Unol Daleithiau wedi dweud yn blwmp ac yn blaen mai sigaréts yw yr unig gynnyrch defnyddwyr cyfreithiol a fydd, pan gaiff ei ddefnyddio fel y bwriedir, yn lladd hanner yr holl ddefnyddwyr hirdymor.

Felly, rwy’n eich llongyfarch ar gyrraedd y targed o ostwng y defnydd i 19 y cant. Hoffwn ddeall, Gweinidog, a ydych chi o’r farn ei bod yn realistig y bydd y targed o 16 y cant yn cael ei gyrraedd erbyn 2020, gan fy mod yn nodi yn eich cynllun eich bod yn dweud y bydd hyn yn darged heriol iawn. Ac o ystyried hyn, byddai gennyf ddiddordeb mawr i glywed eich barn ynghylch pa un a ydych chi'n ystyried y gellir cyrraedd nod Cancer Research UK o weld cyfradd ysmygu sy’n llai na 5 y cant ar draws yr holl grwpiau economaidd-gymdeithasol erbyn 2035 yng Nghymru, oherwydd nid oes pwrpas i ni osod targed hollol amhosibl, ond efallai ei bod yn rhywbeth y gallwn ni anelu ato.

Rydych chi’n siarad yn eich datganiad am y rhaglen Helpa Fi i Stopio, ac er hynny yn 2016-17, dim ond 2.9 y cant o'r boblogaeth sy’n ysmygu a gafodd eu gweld gan wasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu, ac ni chyflawnodd unrhyw fwrdd iechyd y targed. Yn wir, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, dim ond 1.3 y cant o'r boblogaeth sy’n ysmygu a wnaeth gais i roi'r gorau iddi. Gweinidog, byddai gennyf ddiddordeb cael gwybod pam yr ydych chi’n meddwl ei bod wedi cymryd cymaint o amser i'r byrddau iechyd ddod i gefnogi hyn. A oes gennych chi unrhyw gynlluniau i edrych ar y targedau eto neu i ddarparu adnoddau ychwanegol i sicrhau eu bod yn gyraeddadwy?

Rwy'n deall bod ymgyrchoedd cyfryngau torfol yn effeithiol iawn ac rydych chi'n siarad cryn dipyn am hynny yn y cyflwyniad, ond mae ffigurau Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos gwahaniaethau sylweddol yn y cyfraddau ysmygu ar draws siroedd Cymru. A wnewch chi ddweud wrthym ni beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod yr adnodd yn cael ei dargedu at y meysydd lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf? Er ei bod yn ffasiynol iawn, ac rwy’n gwybod bod rhyw ran o'r boblogaeth yn hoff iawn o’r cyfryngau cymdeithasol, nid yw nifer fawr o'r bobl sy'n ysmygu yn gyfarwydd â’r cyfryngau cymdeithasol, nid ydyn nhw o reidrwydd yn gallu cael gafael ar gyfrifiaduron, neu maen nhw’n byw mewn ardaloedd a chysylltiad rhyngrwyd gwael. Felly, tybed a wnewch chi roi gwybod i ni sut y byddwch yn sicrhau nad yw'r carfannau hynny yn cael eu hanwybyddu.

Dau beth yn olaf. Mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn ysmygu mwy o lawer na'r boblogaeth gyffredinol. Pa gynlluniau sydd gennych ar waith—oherwydd ni welais unrhyw rai yn y cynllun cyflawni—i geisio addysgu'r bobl hynny am yr angen i roi'r gorau i ysmygu neu geisio lleihau faint y maen nhw’n ei ysmygu? Gan fod y nifer o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl sy'n ysmygu yn sylweddol uwch. A’r ffigurau eraill a oedd yn fy synnu'n fawr oedd y ffigurau ar gyfer mamau beichiog sy’n ysmygu yn ystod eu beichiogrwydd. Dywed y cynllun cyflawni nad yw'r data ar gael ar gyfer yr is-grŵp hwn, ond cyhoeddodd Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru ddata y llynedd yn dangos bod dros 18 y cant o famau yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd, ac roedd anghysondebau ar draws y byrddau iechyd ac ar draws y ffin economaidd-gymdeithasol. Felly, tybed, Gweinidog, pa gynlluniau sydd gennych chi i fynd i'r afael â'r ddau grŵp hynny.

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, dros yr haf, Gweinidog, fe wnes i gefnogi galwadau i swyddogion iechyd y DU ystyried rheolau newydd sy'n gorfodi gostwng lefel y nicotin mewn cynhyrchion tybaco i lefelau di-gaethiwus yn dilyn cyhoeddiad am ymgynghoriad nodedig yn yr Unol Daleithiau gan Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yr Unol Daleithiau. Rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud rhywbeth radical i geisio atal y felltith o ysmygu, a hoffwn ofyn am eich barn ar fenter o’r fath. Os ydych chi'n credu y byddai’n werthfawr bwrw ymlaen â rhywbeth felly, a fyddai modd i chi geisio cysylltu â swyddogion yr adran iechyd yn San Steffan i weld a allwn edrych ar ddeddfwriaeth gynhwysfawr a fyddai’n ceisio gwneud rhai o'r cynhyrchion gwenwynig hyn yn llai gwenwynig i'r rhai hynny sy’n dewis eu defnyddio? Diolch.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:26, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn am y croeso y mae’r cynllun wedi’i gael, ond hefyd ar gyfer y cwestiynau pwysig hynny hefyd. Dechreuoch chi drwy sôn am ba mor gywilyddus ydyw hi bod cymaint o bobl yn dal i ysmygu a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar deuluoedd. Yn fy natganiad, dywedais fod ysmygu yn lladd mwy na 5,000 o unigolion bob blwyddyn. Felly, mae hynny'n 5,000 o deuluoedd sydd wedi’u heffeithio’n ofnadwy gan ysmygu. Dyma’r prif beth sy’n achosi marwolaethau ataliadwy ac, wrth gwrs, mae hynny'n ein hysgogi i gyrraedd ein targedau. Mewn gwirionedd, un o'r ffeithiau sy'n fy sbarduno ymlaen yn arbennig ar hyn yw ei fod mewn gwirionedd yn broblem o anghydraddoldebau iechyd hefyd, oherwydd y gwyddom fod pobl mewn cymunedau tlotach yn llawer mwy tebygol o ysmygu, ac o ganlyniad, mae’n llawer mwy tebygol o gael yr effeithiau iechyd gwael hynny sy’n ganlyniad iddo. Felly, mewn gwirionedd, mae'n fater o gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol hefyd. Felly, mae hyn yn wir yn ein sbarduno ymlaen i geisio cyflawni'r targedau hynny.

Gwnaethoch chi ofyn am y targed o 16 y cant. Rwy’n fodlon mentro a dweud, ydw, rwy'n credu y byddwn ni’n gallu cyflawni'r targed hwnnw gyda chymorth y gwahanol gamau gweithredu newydd a nodir yn ein cynllun, a hefyd gyda chymorth Bil iechyd y cyhoedd—neu Ddeddf Iechyd y Cyhoedd erbyn hyn—a basiwyd yn ddiweddar gan y Cynulliad hwn. Mae'n darged heriol; nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ond, ar yr un pryd, credaf fod yr egni ar gael i gyrraedd yn y fan honno. Gwnaethoch ofyn am dargedau yn y dyfodol, ac, wrth gwrs, ein huchelgais pennaf yw Cymru ddi-fwg. Bydd hyn yn rhywbeth y byddaf yn gofyn i'r bwrdd strategol ar reoli tybaco edrych arno, gosod targedau newydd pan fyddwn yn adolygu pethau yn 2020, pan ddaw'r cynllun hwn i ben. Felly, byddwn yn sicr yn dymuno cael targedau parhaus er mwyn mynd â ni i’r sefyllfa ddi-fwg yr ydym yn dyheu amdani.

Rydych chi'n hollol gywir i ddweud bod angen inni gynyddu ein hymdrechion o fewn y GIG o ran y gefnogaeth a gynigir i bobl drwy'r GIG er mwyn rhoi'r gorau i ysmygu. Mae rhai camau gwirioneddol bwysig o fewn y cynllun cyflawni arbennig hwn, ac un ohonynt, mewn gwirionedd, yw gwelliant i’r gwasanaethau ar gyfer rhoi'r gorau i smygu trwy ddylunio a datblygu gwasanaeth 'stopio ysmygu' integredig. Nawr, rydym ni wedi dechrau hynny gyda'n brand newydd, a'r gwasanaeth newydd y gwnes ei ddisgrifio, Helpa Fi i Stopio, sydd eisoes wedi’i lansio. Ond mewn gwirionedd, mae angen i ni wneud llawer mwy. Un o'r pethau yr ydym yn ei wneud yw cryfhau'r llwybr atgyfeirio ar gyfer gwasanaethau mamolaeth i gynnwys atgyfeirio pob menyw feichiog sy'n ysmygu i wasanaethau rhoi'r gorau iddi, a hefyd cryfhau llwybrau atgyfeirio i gynnwys atgyfeirio i wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu i bawb sy'n ysmygu sy'n naill ai yn gleifion cyn llawdriniaeth, oherwydd ein bod yn gwybod yr effaith y bydd hynny'n ei gael ar y tebygolrwydd o gael canlyniad cadarnhaol ar ôl llawdriniaeth, pobl â chlefyd yr ysgyfaint, a phobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl hefyd. Felly, mae hynny’n gam gweithredu penodol yn y fan hon. Mae yna gamau gweithredu hefyd ar gyfer clystyrau gofal iechyd sylfaenol o ran diffinio faint o atgyfeiriadau y bydd angen iddynt eu gwneud er mwyn gweld gostyngiad mewn ysmygu o flwyddyn i flwyddyn hefyd. Felly, rydym ni’n gwybod bod gan ofal sylfaenol ran bwysig iawn i'w chwarae yn hyn o beth. A chamau gweithredu ar gyfer fferyllfeydd hefyd. Felly, byddwn yn ceisio sicrhau bod pob fferyllydd yn gallu cynnig gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu fel rhan o'u hyfforddiant cyn cofrestru. Felly, byddai hwn yn ddatblygiad newydd hefyd. Ac, unwaith eto, byddwn yn ceisio gwella'r rhan y mae deintyddion yn ei chwarae o ran cynnig gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu hefyd. Felly, mae llawer o waith ar y gweill a llawer o ddulliau newydd o fewn y GIG hefyd.

Gwnaethoch gyfeirio yn benodol at y ffaith bod cyfryngau cymdeithasol yn wych o ran lledu’r neges, ond nid yw pawb yn gallu cael mynediad at gyfryngau cymdeithasol. Felly, yn rhan o'n hymgyrch Helpa Fi i Stopio, roedd gennym ni rai hysbysebion teledu a rhai hysbysfyrddau hefyd. Roedd mynd ar ymweliad i sefyll ger hysbysfwrdd yn un o’r pethau mwyaf rhyfedd yr wyf wedi eu gwneud ers i mi fod yn Weinidog, ond dyna ble y gwnaethom lansio’r ymgyrch oherwydd ein bod ni'n teimlo ei bod yn bwysig bod gennym ni bresenoldeb cyhoeddus iawn a gweladwy mewn cymunedau hefyd.

Yn ystod gwanwyn 2018, byddwn ni’n ymgynghori â defnyddwyr, staff a rhanddeiliaid y gwasanaeth iechyd meddwl ar ddileu'r esemptiad ar gyfer y lleoedd hynny sy'n ddi-fwg o fewn unedau iechyd meddwl. Ac rwy'n wirioneddol awyddus i ni gael barn pobl sydd â phrofiad o aros mewn unedau iechyd meddwl yn hynny o beth. Dyna'r bobl y mae angen i mi fod yn gwrando arnynt yn fwy nag unrhyw un arall yn yr amgylchiadau hyn.

Yn olaf, a chyfeiriais ato yn fyr, ond gwnaethoch chi sôn am gefnogaeth i fenywod beichiog. Mae canlyniadau ein cynllun peilot ysmygu yn ystod beichiogrwydd, modelau ar gyfer cael gafael ar gefnogaeth i roi'r gorau i ysmygu ar gyfer mamau, sydd â’r acronym cyfleus iawn MAMSS, wedi dangos bod menywod beichiog yn fwy tebygol o ymgysylltu â gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu wrth ddefnyddio cymorth sydd wedi'i fewnosod yn y gwasanaethau mamolaeth hynny. Ac mae hefyd yn bwysig gwybod bod plant 70 y cant yn fwy tebygol o ysmygu os yw eu mam yn ysmygu, a thair gwaith yn fwy tebygol o ysmygu os yw'r ddau riant yn ysmygu hefyd. Felly, dyma'r math o ymyriadau byr y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, bydwragedd a gweithwyr gofal iechyd eu defnyddio gyda theuluoedd drwy'r gwaith y maent yn ei wneud yn rhan o gynlluniau Plant Iach Cymru a 10 Cam i Bwysau Iach hefyd.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:32, 19 Medi 2017

Mi hoffwn innau groesawu cyhoeddi’r cynllun gweithredu. Mi allem ni gyd, rwy’n siŵr, groesawu unrhyw ymrwymiad i barhau i geisio gostwng cyfraddau ysmygu ac yn arbennig, rwy’n meddwl, y camau i geisio atal pobl rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf, achos rwy’n grediniol mai dyna’r elfen fwyaf arwyddocaol a mwyaf allweddol yn y frwydr i ostwng cyfraddau ysmygu yn yr hirdymor.

Os gallaf edrych yn benodol ar ambell bwynt sy’n codi yng ngham gweithredu 2 yn y strategaeth newydd—mae’n sôn am edrych ar ddefnyddio technoleg, er enghraifft, cyfryngau cymdeithasol, mewn camau i atal ysmygu ymhlith yr ifanc yn benodol. Hefyd, mae’n sôn am edrych ar dystiolaeth ryngwladol ynglŷn â thargedu’r ifanc a phobl sydd mewn perig o ddechrau ysmygu. Yn y ddwy enghraifft hynny mae sôn am ddechrau’r gwaith yma erbyn mis Mawrth, mis Ebrill, y flwyddyn nesaf. Tybed a fyddai’r Gweinidog yn cytuno â mi nad oes yna amser i oedi yn fan hyn ac y dylai’r mathau yna o gamau, siawns, eisoes fod ar waith?

O ran y brand newydd, ‘Dewiswch fod yn ddi-fwg’, mi edrychaf ymlaen at weld a ydy hwnnw’n taro deuddeg efo pobl ac, wrth gwrs, rydym yn gobeithio y bydd o. Ond tybed faint o arian—. A oes yna fanylion ynglŷn â’r cyllid a fydd yn mynd i mewn i farchnata’r cynllun yna a’r camau newydd sy’n rhan o’r strategaeth yma?

Mi oeddwn innau hefyd yn eiddgar i wneud y pwynt ynglŷn ag ysmygu a chyfraddau ysmygu ymhlith y rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl. Rwy’n meddwl bod 36 y cant o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn ysmygu, o’i gymharu ag 19 y cant o’r boblogaeth yn gyffredinol. Mae tystiolaeth yn dangos bod rhoi’r gorau i ysmygu yn gallu bod yn rhan effeithiol o driniaeth iechyd meddwl. Felly, er bod y Gweinidog wedi gwneud sylwadau ynglŷn â hyn yn barod, mi fyddwn yn annog y Llywodraeth i wneud mwy o waith yn y maes yma.

Yn olaf, targedau. Rwy’n croesawu’r sylwadau wnaeth y Gweinidog wrth ymateb i gwestiynau Angela Burns ynglŷn â’i pharodrwydd i edrych ar addasu a chryfhau targedau hirdymor ar gyfer lleihau cyfraddau ysmygu. Mi grybwyllwyd yn benodol y targed yma sydd gan Cancer Research UK o anelu am 5 y cant o’r boblogaeth erbyn y flwyddyn 2035. A ydy’r Gweinidog, tybed, wedi ystyried yn barod, er y bydd hi’n edrych ymhellach ar hyn, fod hwnnw yn darged y gallai hi fod â diddordeb yn ei fabwysiadu, achos mae o’n darged y mae Cancer Research UK yn sicr yn gobeithio y gallwn ni ei ystyried fel un realistig, er yn uchelgeisiol? A’r targed arall yna wedyn o drin 5 y cant neu gynnig gwasanaethau i 5 y cant o’r rheini sydd yn smygu, a ninnau yn cyrraedd llai na 3 y cant ar hyn o bryd—erbyn pa bryd mae’r Llywodraeth yn hyderus y byddwch chi’n gallu taro y 5 y cant yna?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:35, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, ac yn arbennig am y pwyslais y gwnaethoch ei roi ar y dechrau o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud i atal plant a phobl ifanc rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf. Ac mae ein Deddf Iechyd y Cyhoedd diweddar, fel y gwyddoch, yn ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i leoedd y mae plant a phobl ifanc yn eu defnyddio’n aml. Ac mae ymrwymiad yn y Ddeddf honno y bydd Gweinidogion yn cael ychwanegu lleoedd eraill i'r rhestr o leoliadau di-fwg maes o law hefyd. Felly, mae ymrwymiad yn ein cynllun i ystyried pa leoliadau eraill y gellir eu hychwanegu at hynny hefyd, a byddaf yn troi yn y lle cyntaf at y grŵp darparu rheoli tybaco a'i is-grwpiau i gynghori, er fy mod yn ymwybodol iawn y cafodd llawer o syniadau eu cyflwyno wrth graffu ar y Ddeddf. Ac wrth gwrs, buom yn trafod yn helaeth am sut yr ydym ni yn ei hanfod yn gwahardd gweithred gyfreithiol mewn man cyhoeddus, felly mae llawer o ystyriaethau hawliau dynol i feddwl amdanynt. Ond wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud ag iechyd plant a phobl ifanc Cymru.

Mae rhai camau sydd eisoes wedi dechrau o ran ein cynllun gweithredu a lansiwyd gennym ni heddiw, ac mae un ohonynt yn adolygu'r meini prawf tybaco o fewn y wobr ansawdd genedlaethol ar gyfer cynllun rhwydwaith ysgolion iach Cymru, ac mae hynny er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r arfer gorau a'r dystiolaeth orau sydd gennym ni o ran pobl ifanc a thybaco. Mae hynny hefyd yn cynnwys cynhyrchion tybaco eraill megis e-sigaréts. Rydym ni’n gwybod bod yn rhaid i ni fod yn ymatebol ac yn graff iawn o ran y ffyrdd newydd y gall tybaco gael ei weinyddu i bobl, ac rydym yn glir iawn o fewn y cynllun gweithredu y bydd ein bwrdd strategol ar reoli tybaco a'i is-grwpiau yn weithgar iawn o ran monitro'r tueddiadau diweddaraf, y technolegau diweddaraf a'r defnydd diweddaraf ac yn y blaen.

Rydym hefyd yn awyddus i ddefnyddio'r cwricwlwm i weld yr hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y negeseuon cywir am beryglon ysmygu. A hefyd yn ein cynllun gweithredu, mae gennym ni gamau gweithredu ar gyfer addysg bellach a lleoliadau addysg uwch gan fod y rhain yn adegau pan fydd pobl ifanc yn meddwl am ddechrau ysmygu, ond hefyd adegau pan fydd cyfle da mewn gwirionedd i ymgysylltu â nhw a darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt mewn lleoliad gwahanol i roi'r gorau i ysmygu hefyd.

Rwy'n rhannu eich pryderon ynghylch y lefel uchel o ysmygu ymhlith pobl sy'n dioddef o salwch meddwl, ac unwaith eto mae hyn yn dod yn ôl at y mater cyfiawnder cymdeithasol hwnnw na ddylem fod yn derbyn amodau gwaeth ar gyfer pobl sy'n dioddef o salwch meddwl, ni ddylem fod yn derbyn amodau gwaeth ar gyfer pobl sy'n byw mewn cymunedau tlotach—dylem fod yn disgwyl iechyd da a gwasanaethau da i'r holl bobl hyn. Felly, rwy'n falch bod hyn yn cael sylw yn y cynllun ond, unwaith eto, byddwn yn dweud bod y bwrdd strategol ar reoli tybaco hefyd yn agored iawn i unrhyw syniadau pellach y gallai fod gan bobl o ran sut y gallwn ni gryfhau ein hymagwedd, ac rwy'n awyddus i siarad, wrth inni edrych eto ar y rheoliadau ar ysmygu mewn unedau iechyd meddwl, i gael trafodaeth ehangach, mewn gwirionedd, â phobl sydd â salwch meddwl a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli hefyd.

Ac ar y pwynt hwnnw, dylai fod gennyf ar ddiwedd fy sylwadau ymateb i Angela, a soniodd am y mater o lefelau nicotin. A byddwn yn awyddus i gynnal cyfarfod gyda chi i drafod hynny ymhellach, pe byddai hynny'n ddefnyddiol hefyd.

Mae llawer o dargedau a llawer o gyfleoedd i fonitro'r broses o gyflawni'r cynllun. Fe welwch fod gennym ni ddangosyddion o'r arolwg cenedlaethol o ymddygiad iechyd mewn plant oedran ysgol, astudiaethau Rhwydwaith Ymchwil Iechyd yr Ysgol, dangosyddion mamolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, dangosyddion eraill Iechyd Cyhoeddus Cymru, a thargedau perfformiad eraill hefyd. Felly, dylai fod yn glir iawn i bobl i ba raddau yr ydym yn cyrraedd ein targedau a'n uchelgeisiau o fewn y cynllun.

O ran y cynllun tymor hirach hwnnw a’r dyhead tymor hirach hwnnw ar gyfer Cymru ddi-fwg, rwy'n ymwybodol o uchelgais Cancer Research UK a Sefydliad Iechyd y Byd i gael Cymdeithas ddi-fwg erbyn 2035, ac yn sicr bydd hyn yn rhywbeth y mae'r bwrdd strategol ar reoli tybaco yn ei ystyried wrth ymgynghori ar y targedau nesaf. Er hynny, byddwn yn dychmygu y byddent yn dymuno gosod targed agosach. Felly, pe byddwn yn ailgyhoeddi cynllun newydd yn 2020, yna rwy'n dychmygu y byddem yn edrych tuag at, dyweder, targed 2025 ac yn y blaen. Ond, yn y pen draw, yn amlwg, ein gweledigaeth ni yw Cymru ddi-fwg.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:40, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy’n croesawu’r cynllun cyflawni. Ers gweithredu'r gwaharddiad ar ysmygu, mae'n newyddion da bod ysmygu yn y cartref wedi gostwng 80 y cant i 46 y cant. Dywed ASH Cymru fod hyn yn awgrymu bod gwell dealltwriaeth o beryglon mwg ail-law, yn enwedig o amgylch plant a theuluoedd. Felly, er ein bod yn edrych ar hyn fel gostyngiad o 34 y cant mewn ysmygu yn y cartref, rhaid inni gofio bod y bobl eraill yn y cartref yn elwa ar y ffaith nad ydynt yn dioddef effeithiau'r mwg ail-law hwn hefyd.

Fel y crybwyllwyd, ysmygu yw un o brif achosion anghydraddoldebau iechyd, ac mae cyfraddau ysmygu mewn ardaloedd tlotach fwy na dwywaith yn uwch na’r rhai mewn ardaloedd cyfoethog. Felly, tybed sut yr ydym yn mynd i'r afael â'r agwedd anghydraddoldeb.

Wrth ymweld ag ysbytai yn fy rhanbarth, cefais fy syfrdanu gan nifer y bobl y tu allan i'r ysbyty, ond yn y man cyhoeddus, sy'n dal i ysmygu. Felly, rwy’n falch bod y datganiad yn cydnabod hyn ac mae'n bwriadu ymestyn y gwaharddiad i gynnwys meysydd fel y rhain. Ymddengys na fyddai'r holl wybodaeth yn y byd yn helpu rhai pobl i guro'r ddibyniaeth hon, ac nid wyf yn beirniadu, ond yn ceisio deall, pan fo pobl yn dod yn gaeth i sigaréts, mae'n rhaid bod yn ofnadwy os na allwch guro'r ddibyniaeth. Er eu bod yn ymwybodol o beryglon ysmygu, a’i fod yn cyfrannu at 5,450 o farwolaethau’r flwyddyn yng Nghymru, mae pobl yn dal i ysmygu. Felly, mae hyn yn destun pryder ac mae’n rhaid inni wneud popeth a allwn ni i fynd i'r afael â hyn a gwneud mwy i helpu pobl.

Fy mhryder i yw'r ysmygu ail-law sy'n gysylltiedig â babanod a phlant. Rwyf wedi gwylio rhaglenni ar y teledu ynglŷn â sut y mae babi yn y groth yn ymateb i ysmygu, ac mae hyn yn peri pryder mawr i’w wylio, ond hoffwn i, mewn ffordd, ei weld yn cael ei hysbysebu mwy. Mae rhieni sy'n ysmygu yn debygol iawn o ddylanwadu ar y plant sy'n byw gyda nhw, felly mae'n syfrdanol i ddarllen bod 64 y cant o ddisgyblion ysgol uwchradd yn dweud eu bod yn dioddef effeithiau fwg ail-law. Felly, tybed a ydych yn cytuno â mi fod angen ystyried y maes hwn.

Gan fod 19 y cant o oedolion Cymru yn dal i ysmygu, pa ymchwil a gwybodaeth sydd eisoes gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo i leihau'r nifer hwn? Hefyd, mae ASH wedi datgan bod y gwaharddiad yn llwyddiannus 100 y cant mewn carchardai, ond rwy’n deall, ers y gwaharddiad hwn, bod nifer y digwyddiadau hunan-niweidio yn y carchar wedi cynyddu ymhlith carcharorion, fel y mae trais, a hynny carcharor ar garcharor a charcharor ar staff. A yw hyn oherwydd rhwystredigaeth—dyfeisio sigarét drwy geisio ysmygu bagiau te er mwyn cyflenwi lle’r sigarét nad yw’n gallu mynd i mewn? Felly, mae gan y bobl hyn broblemau iechyd meddwl, ac, ynghyd â chael eu cloi, mae hyn yn ychwanegu straen. Felly, tybed a gawn ofyn i rywfaint o ymchwil gael ei wneud ynghylch y datganiad uchod—bod ASH yn nodi cydymffurfiad o 100 y cant i hyn—ac a allwn ni ail-werthuso, os oes angen, yr hawliadau am lwyddiant ynglŷn â'r carchardai hyn.

Mae'n hanfodol bod gwahardd ysmygu yn agos at feysydd chwarae ac ardaloedd plant, ac rwy'n falch o weld bod y cynllun yn gwneud darpariaethau i atal hyn. Rwy'n falch bod y datganiad yn cydnabod y niwed y mae ysmygu ail-law wedi'i achosi a'r cynlluniau i ddelio ag ef. Hefyd, hoffwn ofyn am y cydweithrediad â gwasanaethau eraill, megis Cancer Research, ASH a meysydd eraill. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:44, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Byddaf yn dechrau o’r man lle gwnaethoch orffen o ran trafod cydweithio â sefydliadau eraill sydd â diddordeb brwd yn y maes hwn. Ariannwyd ASH Cymru am dair blynedd i'n cefnogi ni wrth gyflwyno ein cynllun, ond mae ganddynt ran bwysig iawn hefyd o ran cael trafodaethau ehangach â'r holl bobl hynny sydd â diddordeb mewn rheoli tybaco yng Nghymru—ar draws y trydydd sector hefyd. Felly, mae yna ddeialog dda, rwy'n credu, o ran yr holl sefydliadau hynny sydd â diddordeb. A hefyd, ar waelod y cynllun cyflawni, gallwch weld rhestr o holl aelodau'r bwrdd strategol ar reoli tybaco, a hefyd yr is-grwpiau sy'n cefnogi'r gwaith hwnnw, a gobeithio y byddech yn cytuno eu bod yn adran amrywiol sy'n adlewyrchu barn ein cymdeithas yn hynny o beth.

Roeddech chi’n iawn i’n hatgoffa, mewn gwirionedd, bod ysmygu yn ddibyniaeth ofnadwy oherwydd, yn fy marn i, fel rhywun nad yw'n ysmygu, mae'n eithaf hawdd anghofio yn aml ei fod yn gaethiwed gwirioneddol. Mae'n ddibyniaeth ddrud iawn, ac mae chwech o bob 10 o smygwyr ar hyn o bryd, heddiw, yn dymuno rhoi'r gorau iddi. Felly mae angen inni fod yn y fan honno i gefnogi'r chwech allan o 10 hynny a hefyd i ddarparu'r negeseuon a'r addysg gywir ar gyfer y pedwar arall o ran eu helpu i ddeall y difrod ac yna gwneud dewisiadau yn hynny o beth.

Gwnaethoch sôn am y gwaith sy'n digwydd mewn carchardai; bu'n llwyddiannus iawn o ran y ffaith bod yr holl garchardai yng Nghymru yn ddi-fwg erbyn hyn. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau, pan gaiff carcharorion sy'n hanu o Gymru, eu rhyddhau o'r carchar yn ôl i'r gymuned, eu bod mewn gwirionedd yn dal i gael cefnogaeth i aros ar y siwrnai ddi-fwg honno, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein cynllun gweithredu hefyd.

Gwnaethoch sôn, fel y gwnaeth eraill, am ba mor bwysig yw hi i gefnogi rhieni i roi'r gorau i ysmygu. Gwyddom, fel y soniais yn gynharach, fod plant sy'n gweld eu rhieni yn ysmygu yn llawer mwy tebygol o ddechrau ysmygu eu hunain, ac mae'r ymchwil ddiweddaraf yn dangos bod y rhan fwyaf o smygwyr sy'n oedolion yn dechrau ysmygu mewn gwirionedd cyn 18 oed. Felly, mae’r rhieni a'r rhieni sy’n fodelau rôl yn ffactor pwysig iawn yn hyn hefyd.

Mae mwg ail-law yn fater hynod o bwysig hefyd, ac fe wnaethoch chi siarad am y perygl y gall hynny ei achosi i blant a phobl ifanc. Un o'r llwyddiannau mawr, rwy’n credu, yw’r gwaharddiad ar ysmygu mewn ceir gyda phlant. Rwy'n credu bod pobl wedi dilyn y gwaharddiad yn dda, oherwydd mae plismona’r gwaharddiad yn beth anodd, fel y gallwch chi ddychmygu, ond mae pobl wedi ymlynu ato. Ac am wn i mae’r mathau hynny o newidiadau diwylliannol, wyddoch chi, mae'n cymryd amser i newid diwylliant, ond mewn gwirionedd rwy'n credu ein bod ni'n agos ati nawr gan ddefnyddio amryw wahanol ddulliau, ac wrth i lawer o bartneriaid weithio gyda’i gilydd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:47, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Ac os gallwch chi ofyn cwestiwn yn gyflym iawn ac os gall y Gweinidog ei ateb yn gyflym iawn, byddaf yn ei ganiatáu. Russell George.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Gweinidog, a gaf i ofyn: a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth, ac os naddo, a wnewch chi, i wahardd ysmygu mewn ystafelloedd gwely gwestai yng Nghymru?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. O dan y rheoliadau presennol ar gyfer safleoedd di-fwg 2007, mae rheolwyr gwestai, tai llety, llety gwely a brecwast, canolfannau preswyl a chlybiau aelodau â llety preswyl yn cael dynodi ystafelloedd gwely lle caniateir ysmygu. Nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnynt i wneud hynny, gan mai’r rheolwr sy’n penderfynu pa un a ydynt am ddyrannu ystafelloedd ysmygu. Ond, wrth symud ymlaen â rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, bydd yr holl ddarpariaethau di-fwg yn cael eu hadolygu yn unol ag arferion da, a bydd ymgynghoriad llawn yn cael ei gynnal ar y rheoliadau drafft hynny. Felly, o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu i westai, gwely a brecwast ac yn y blaen, fel y dywedais—rwy'n credu fy mod wedi ateb yn ysgrifenedig ar y mater hwn yn ddiweddar iawn hefyd—ar hyn o bryd y gwesty neu'r rheolwr busnes sy’n dewis, ond mae'n rhaid iddyn nhw fod yn hollol hyderus, ac mae'n rhaid dangos, nad yw'r ystafell ysmygu yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar yr ystafelloedd cyfagos, er enghraifft, o awyrellau ac yn y blaen.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:48, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Iawn, diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am hynny.