Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 19 Medi 2017.
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. O dan y rheoliadau presennol ar gyfer safleoedd di-fwg 2007, mae rheolwyr gwestai, tai llety, llety gwely a brecwast, canolfannau preswyl a chlybiau aelodau â llety preswyl yn cael dynodi ystafelloedd gwely lle caniateir ysmygu. Nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnynt i wneud hynny, gan mai’r rheolwr sy’n penderfynu pa un a ydynt am ddyrannu ystafelloedd ysmygu. Ond, wrth symud ymlaen â rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, bydd yr holl ddarpariaethau di-fwg yn cael eu hadolygu yn unol ag arferion da, a bydd ymgynghoriad llawn yn cael ei gynnal ar y rheoliadau drafft hynny. Felly, o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu i westai, gwely a brecwast ac yn y blaen, fel y dywedais—rwy'n credu fy mod wedi ateb yn ysgrifenedig ar y mater hwn yn ddiweddar iawn hefyd—ar hyn o bryd y gwesty neu'r rheolwr busnes sy’n dewis, ond mae'n rhaid iddyn nhw fod yn hollol hyderus, ac mae'n rhaid dangos, nad yw'r ystafell ysmygu yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar yr ystafelloedd cyfagos, er enghraifft, o awyrellau ac yn y blaen.