Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 19 Medi 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gynnig y cynnig sydd ger ein bron heddiw yn ffurfiol. I fynd yn ôl i'r man lle'r oeddem ni ym mis Mehefin, rwy'n dal i fod yn falch o fod wedi cael adroddiad interim yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru y gwnaethom ei rannu gydag Aelodau, mae’n ddrwg gennyf, ym mis Gorffennaf, nid ym mis Mehefin eleni, ond cyflwynais y ddadl hon heddiw i ganiatáu mwy o drafodaeth gan fod Aelodau wedi cael mwy o amser i ystyried yr adroddiad interim erbyn hyn.
Ceir grŵp cyfeirio gwleidyddol, wrth gwrs, sy'n cael diweddariad rheolaidd ar gynnydd gyda'r adolygiad, a bydd yn cyfarfod eto y mis yma, ond mae hwn yn gyfle i bob Aelod wneud sylwadau yn uniongyrchol. Mae'r panel annibynnol yr ydym wedi ei ffurfio wedi edrych ar ddata, wedi casglu tystiolaeth ac wedi defnyddio profiad rhyngwladol helaeth i ddatblygu ei farn ei hun ar iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Mae'r adroddiad interim yn diffinio materion allweddol sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n cyflwyno’r achos dros newid, ac yn nodi meysydd lle mae angen gwelliannau. Mae'r adroddiad yn dynodi meysydd yr hoffai’r panel eu harchwilio ymhellach dros y misoedd nesaf cyn cwblhau'r adolygiad a chyflwyno adroddiad terfynol gydag argymhellion i mi erbyn diwedd y flwyddyn galendr.
Dylwn ddweud bod yr adroddiad interim yn nodi bod achos cryf dros newid, gyda chonsensws cyffredinol ymhlith rhanddeiliaid a'r bobl sydd wedi rhoi tystiolaeth hyd yma ar yr angen am integreiddio pellach ac am wasanaethau sydd ar gael yn fwy hwylus yn y gymuned. Mae'r adroddiad hefyd yn glir nad yw diffyg gweithredu yn ddewis wrth symud ymlaen, ac mae'r adroddiad yn herio pob un ohonom: a ydym ni'n barod i gefnogi newid ac i oresgyn yr heriau anodd hynny? Mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni wneud dewisiadau ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru neu y cwbl y byddwn yn ei wneud fydd caniatáu i ddewisiadau gael eu gwneud drosom. Felly, mae'r dyfodol yn ymdrech ar y cyd ar draws pleidiau gwleidyddol a bydd angen y lefel barhaus o aeddfedrwydd ac arweinyddiaeth ar draws y pleidiau a arweiniodd at sefydlu’r adolygiad hwn yn y lle cyntaf.
Nid yw Cymru, wrth gwrs, ar ei phen ei hun o ran wynebu'r heriau a nodir yn yr adroddiad interim. Mae angen inni edrych ar sut y gallwn ni lunio ffordd o weithio yn y dyfodol sy'n gynaliadwy ac yn parhau i gyflawni canlyniadau da. Mae cyhoeddi’r adroddiad yn golygu bod brys o’r newydd arnom ni i drafod a phenderfynu, a bod angen ennyn ymgysylltiad dinasyddion a'r gweithlu wrth benderfynu ar y math o wasanaethau a fydd ar gael mewn cymunedau yn y dyfodol. Mae’r strategaeth genedlaethol a lansiwyd gan y Prif Weinidog heddiw, 'Ffyniant i Bawb', yn cyd-fynd â'r llwybr arfaethedig a nodir yn yr adolygiad seneddol a'i adroddiad interim. Mae'n ein hymrwymo ni fel Llywodraeth i ymateb i'r adolygiad a chyhoeddi cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol y flwyddyn nesaf.
Mae'r panel, fodd bynnag, yn ei adroddiad, wedi cydnabod y ddeddfwriaeth bwysig y mae Cymru eisoes wedi ei datblygu—mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ddwy Ddeddf benodol sydd, ynghyd â gofal iechyd darbodus, yn cynnig set bwerus o egwyddorion i ni y gellir eu cymhwyso’n gyfartal i GIG Cymru a gofal cymdeithasol, ac mae cryn gefnogaeth iddynt. Dylai defnydd eang a chynhwysfawr o'r egwyddorion hyn ein helpu i weddnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae maint yr her yn golygu bod angen gweithredu ar y cyd a chydag elfen o frys. Rwy’n cael fy atgoffa’n gyson o’r negeseuon yn yr adroddiad interim wrth i mi deithio’r wlad yn gwrando ar staff a chleifion, yn enwedig o ran llais y claf a'r defnyddiwr gwasanaeth, oherwydd bod yr adroddiad yn cydnabod yr angen cynnwys mwy ar staff, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr wrth lunio, gweithredu, gwerthuso a datblygu modelau gofal newydd dilynol, a sicrhau bod swyddogaethau a chyfrifoldebau ar y cyd mwy eglur.
Rwy'n cydnabod bod y canlyniadau gorau yn aml yn dod trwy gydgynhyrchu gweithredol ac mae hyn yn rhywbeth yr hoffwn weld mwy ohono. Mae un o'r cynigion adolygu interim allweddol yn canolbwyntio ar ddatblygu modelau gofal newydd i'w treialu, eu gwerthuso ac yna eu cynyddu’n gyflym. Wrth gwrs, mae'r cyfeiriadau at anghenion dinasyddion lleol yn bwysig yn hyn o beth, a gwn o siarad â chadeirydd yr adolygiad bod y fforwm rhanddeiliaid a sefydlwyd i helpu i ddatblygu'r gwaith hwn yn ceisio llunio’r egwyddorion a'r safonau sy'n nodweddu modelau llwyddiannus y gellir eu defnyddio wedyn i ddatblygu a phrofi modelau mwy newydd o weithio. Dylai hynny roi elfen o sicrwydd inni am ein cysondeb ar lefel genedlaethol gyda'r rhyddid a'r lle i addasu i anghenion lleol, yn enwedig yn y cyd-destunau gwledig a / neu drefol.
Nodaf fod y grŵp adolygu bellach wedi bod yn gweithio dros doriad yr haf i gasglu enghreifftiau o fodelau gofal integredig llwyddiannus, a deallaf y bu ymateb da i ymgysylltu parhaus gan randdeiliaid ar draws y wlad, ond maen nhw’n edrych ar enghreifftiau o'r tu allan i Gymru hefyd. Dim ond un elfen o hyn yw'r modelau, wrth gwrs. Edrychaf ymlaen at yr argymhellion a gânt eu llunio o amgylch y nod driphlyg o wella iechyd y boblogaeth, gwella ansawdd y gofal ac, wrth gwrs, gwella gwerth a chynhyrchedd.
Wrth gwrs, bydd y gweithlu yn allweddol i wneud y newidiadau sydd eu hangen, felly mae'n dda gweld cyfeiriad at gynllunio ar raddfa fawr ar gyfer y sgiliau a'r llwybrau gyrfa sydd eu hangen er mwyn i'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ddarparu'r modelau newydd hyn—y ffyrdd newydd hyn o weithio. Mae'r adroddiad yn nodi bod y prinder yn y gweithlu presennol yn llesteirio newid ac mae angen mynd i'r afael â hynny, a dyna rywbeth yr wyf yn ei gydnabod. Yn arbennig, mae rhai arbenigeddau meddygol a rhai ardaloedd daearyddol yng Nghymru lle y ceir anawsterau arbennig ac, unwaith eto, gallwn weld patrwm tebyg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Dyna pam yr ydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i barhau i weithredu i ddenu a hyfforddi a chadw mwy o feddygon teulu, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yma yng Nghymru.
Fe wnaethom ni lansio ymgyrch i annog meddygon, gan gynnwys Meddygon Teulu, i ddod i Gymru i hyfforddi, gweithio a byw ac, fel yr wyf wedi ei ddweud o’r blaen, mae hynny wedi cael effaith gychwynol sylweddol a chadarnhaol gyda 91 y cant o swyddi gweigion i feddygon teulu dan hyfforddiant yn cael eu llenwi o'i gymharu â 68 y cant y llynedd, ac mae hynny'n cynnwys cyfradd lenwi o 100 y cant mewn rhai o'n hardaloedd anoddaf i recriwtio iddynt o ran hyfforddiant Meddygon Teulu, yn enwedig rhannau mwy gwledig o Gymru. Mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n cynnal yr ymgyrch Hyfforddiant, Gweithio, Byw, nid yn unig i feddygon, ond i nyrsys, ac yn ddiweddarach eleni bydd ymgyrchoedd eraill ar gyfer therapyddion a fferyllwyr hefyd.
Mae'r adroddiad yn arwydd i ni o’r angen i symleiddio a chyfochri trefniadau llywodraethu, cyllid ac atebolrwydd ym mhob agwedd ar iechyd a gofal cymdeithasol. Yn gysylltiedig yn agos â hynny ceir y dyhead am ymagwedd fwy systematig ac effeithiol at wella ansawdd yn barhaus a sut yr ydym yn annog a datblygu diwylliant sy'n creu amgylchedd cefnogol a deniadol i'n staff ac, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth yn rhannu'r uchelgais hwnnw; byddech chi'n disgwyl i ni wneud hynny. Mae hynny o gymorth i ategu ein hymagwedd at ein Papur Gwyn 'Gwasanaethau sy’n Addas i’r Dyfodol'. Mae’n ymwneud â sut y byddwn yn rhyddhau’r potensial i fyrddau iechyd lleol ddangos eu bod yn llywodraethu ac yn ymddwyn yn strategol a bod ansawdd wrth wraidd popeth a wnant.
Mae'r adroddiad interim hefyd yn tynnu ein sylw at yr angen i ledaenu arloesedd a gwneud defnydd gwell o ddata a gwybodaeth i ddylunio a monitro cynnydd y newid. Mae hwn yn faes hanfodol i ni, ac edrychaf ymlaen at weld sut y gellir cefnogi hyn ymhellach. Wrth gwrs, ceir cydbwysedd rhwng cyfeiriad cenedlaethol ac ymreolaeth leol wrth sbarduno newid, ac mae hynny'n rhan o'n her o gyflawni gwelliant parhaus, yn seiliedig ar ganlyniadau i ddinasyddion ar draws yr holl system iechyd a gofal, ac o fewn hynny pa mor gyflym mae angen newid, gydag eglurder ac atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau.
Mae'r adroddiad eto yn ailadrodd i ni y ffactorau sy'n arwain at newid: datblygiadau mewn gofal iechyd, disgwyliadau cyhoeddus cynyddol er gwaethaf y ffaith bod gwariant cyhoeddus yn lleihau wrth i’r cyni barhau—mae hynny yn peri her anochel, ni waeth beth yw safbwyntiau ein pleidiau gwleidyddol .Yn ychwanegol at hynny, fodd bynnag, gwyddom fod y galw yn parhau i godi. Mae hynny’n rhannol oherwydd, yn anffodus, bod gennym ni boblogaeth llai iach nag oedd gennym ni yn y degawdau a fu, ac nid yw hynny yn achos dathlu. Fodd bynnag, beth sydd yn achos dathlu yw'r ffaith y gallwn ni i gyd ddisgwyl byw yn hwy, ond mae hynny'n rhoi inni heriau gwahanol a gwahanol ofynion ychwanegol sy'n dod i'n system. Fodd bynnag, mae hynny'n golygu na allwn ni esgus i’n hunain na'r cyhoedd ehangach y bydd gwneud dim ond parhau â'r system iechyd a gofal sydd gennym ni heddiw yn addas ar gyfer y dyfodol. Os byddwn ni’n caniatáu i hynny ddigwydd, bydd ein system yn mynd yn bendrwm a byddwn yn caniatáu niwed gwirioneddol i'n dinasyddion cyn gorfod wedyn newid ein system ar adeg o argyfwng, yn hytrach na cheisio cynllunio ffordd ymlaen i ddatblygu a chyflwyno'n fwriadol system sydd wedi ei haddasu, ei diwygio a’i gwella sy'n wirioneddol gynaliadwy.
Ond dylem lawenhau yn y ffaith bod pobl wirioneddol ddawnus yng Nghymru sydd eisoes yn cyflwyno newidiadau i wella gwasanaethau a chynnig gofal gwell, oherwydd yr wyf yn aml yn gweld arloesedd lleol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion. Rwy'n siŵr bod Aelodau'n gweld hynny yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau hefyd. I ni, mae'n hanfodol ein bod yn deall yr hyn y gellid ac y dylid ei gynyddu’n gyflym fel bod y buddiannau’n cael eu darparu ar draws y system, ac mae angen arweinwyr lleol yn y maes iechyd a gofal arnom ni i hyrwyddo gwelliannau—nid dim ond gyda'r cyhoedd, ond gyda'u cymheiriaid hefyd.
Felly, mae neges yr adroddiad interim, rwy'n credu, yn glir: ni allwn wneud y gwelliannau y mae arnom ni i gyd eisiau eu gweld o ran ansawdd a phrofiad heb weld newid yn y modd y mae ein gwasanaeth yn gweithio. Mae'r adroddiad interim, rwy'n credu, yn gytbwys, ac mae'n asesiad annibynnol o ble yr ydym ni nawr. Rwy'n cydnabod y cynnydd yr ydym ni wedi ei wneud, ond mae angen newid yn gyflymach fel bod ein system iechyd a gofal yn gynaliadwy yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at dderbyn yr adroddiad terfynol cyn diwedd y flwyddyn galendr hon, ac i barhau i weithio'n adeiladol gyda'r holl bartïon er mwyn helpu i weithredu cymaint o'i argymhellion ag sy'n bosibl, ac edrychaf ymlaen at glywed barn Aelodau yn y ddadl heddiw.