Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 19 Medi 2017.
Rydym yn croesawu'r adroddiad interim a’i natur ddiflewyn ar dafod, a byddwn yn cefnogi'r adroddiad heddiw. Gan fod y GIG yn gyflogwr mawr yng Nghymru ac felly’n chwarae rhan arwyddocaol yn economi Cymru, mae'n bwysig bod y gyllideb hon yn cael ei gwario'n ddoeth, fel y gall cleifion, pan eu bod angen hynny, gael gofal a chefnogaeth a gaiff ei darparu mewn modd hyderus, effeithlon a gofalgar. Gyda gwariant doeth daw’r cyfle i newid ac arloesi. Mae’n rhaid inni edrych ar sut y mae'r galw am ein gwasanaethau yn newid a sut y gallwn ni fodloni'r galw hwn orau. Felly, mae'n rhaid nodi'r materion sy'n wynebu'r GIG nawr a llunio gweledigaeth glir ynglŷn â sut y gellir darparu atebion a newidiadau yn effeithiol—newidiadau sy'n gynaliadwy, a newidiadau y cawn fwy o fanylion yn eu cylch yn ail ran yr adroddiad.
Cymru sydd â'r gyfran sy’n tyfu fwyaf a chyflymaf o bobl hŷn yn y DU, ac felly mae mwy o bwyslais ar ofal. Mae’r newid demograffig hwn wedi bod yn digwydd ers peth amser, a fy nghwestiwn i yma yw: sut mae ymateb i'r newid hwn? Efallai trwy ailddyfeisio a diwygio ysbytai cymuned. Mewn cyferbyniad â'r cynnydd hwn, rhagwelir y bydd llai o oedolion oedran gweithio yn yr un cyfnod, ac effaith hyn yw’r posibilrwydd y bydd y sylfaen drethi yn lleihau. Felly, o ystyried y ffactorau hyn hyd yma, sut y bydd gofal yn cael ei ddarparu a chan bwy? Rydym yn aml yn anghofio y gofalwyr di-dâl yn ein cymunedau a'r cyfraniad enfawr a wnânt. Felly, mae'n deg eu crybwyll heddiw.
Oherwydd bod pobl yn byw'n hwy, rydym yn disgwyl i bobl weithio'n hwy, ond edrychwch ar sefyllfa Menywod yn erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sydd wedi achosi llawer o bryder ac ansicrwydd, gyda Guy Opperman, y Gweinidog dros Bensiynau, yn cynnig bod pobl o 64 yn ailhyfforddi ar gyfer sgiliau newydd, i’w galluogi i gael gwaith. Fel y mae llawer o'm hetholwyr wedi ei ddweud wrthyf, pan eich bod chi’n 60 oed neu’n hŷn, gallwch fynd i gyfweliadau, ond mae’r siawns o beidio â chael swydd yn 99 y cant.
Mae cyfranogiad a sylwadau cleifion wedi eu cymryd ar hap o'r pwys mwyaf. Sut mae modd cyflawni hyn yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol ac effeithlon? Mae llawer o sôn am gleifion bregus ac oedrannus yn cael eu cadw yn yr ysbyty pryd y gellid eu rhyddhau ond nad oes ganddynt neb i ofalu amdanynt. Ac yn yr amgylchiadau hyn, mae integreiddio gwasanaethau yn hanfodol er mwyn darparu'r canlyniad gorau i'r unigolyn. Fodd bynnag, mae fy mhrofiad diweddar o integreiddio rhwng iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol wedi fy ngadael gyda theimladau cymysg ynghylch y gofal a'r gefnogaeth a roddwn i'n henoed a'n pobl fregus. Mae achos etholwr yr wyf i’n gyfarwydd ag ef, a aeth, yn 83 oed, i'r ysbyty i gael llawdriniaeth ddargyfeiriol driphlyg ar y galon. Fe'i rhoddwyd yn nwylo llawfeddyg gwych a gyflawnodd y llawdriniaeth yn llwyddiannus. Yna cafodd ofal mewn dau ysbyty. Roedd un ysbyty wedi'i drefnu'n dda, gyda staff a oedd gan fwyaf yn hapus a hwyliog ac a oedd yn amlwg yn mwynhau eu gwaith. Yn yr ail ysbyty roedd ysbryd y staff yn isel ac fe wnaethon nhw ryddhau’r claf yn gwybod ei fod yn byw ar ei ben ei hun a bod angen ychydig ddyddiau neu wythnosau o ofal arno i’w helpu i ddod ato’i hun ar ôl y llawdriniaeth. Gofynnais pam nad oedd wedi derbyn pecyn gofal ar ôl cael ei ryddhau, a’r ateb oedd y gallai gerdded i fyny’r grisiau, ei fod o gwmpas ei bethau ac nad oedd wedi gofyn am becyn. Fe'i rhyddhawyd heb alw’r person a oedd wedi ei nodi fel y person i gysylltu ag ef ar adeg ei ryddhau, ond aethpwyd ag ef adref mewn car, gofynnwyd iddo a oedd ganddo rywfaint o fwyd ac yna fe’i gadawyd. Nid oedd neb i fynd ag ef i apwyntiadau dilynol, ac fe'i gadawyd gyda nifer fawr o dabledi i geisio eu datrys drosto'i hun.
Mae ei feddyg teulu, meddai, yn wych. Ni all ddiolch ddigon i’r llawfeddyg. Roedd yr ôl-ofal a gafodd yn yr ysbyty yn union wedyn yn wych. Ac mae'n dweud ei fod bellach wedi cael blas newydd ar fyw, ac mewn chwe mis mae’n mynd i Benidorm. Fy mhryder i yw nad oedd ôl-ofal ar gael ar gyfer y person hwn, ac mae’n rhaid pwysleisio'r gwahaniaeth mewn gofal rhwng un ysbyty a’r llall. Mae angen inni edrych ar arferion gorau a sicrhau eu bod yn digwydd ym mhob ysbyty. Byddai pecyn gofal wedi gwneud llawer o wahaniaeth yn yr achos hwn, ac mae angen inni sicrhau bod yr holl staff wedi'u hyfforddi'n briodol. Mae cyfathrebu rhwng gwasanaethau yn bwysig, ac mae'n rhaid i ni allu ymdrin â'n cleifion hŷn neu fregus mewn modd trugarog.
Os ydym ni am fabwysiadu newid, mae angen inni edrych ar recriwtio a chadw staff rheng flaen, a chafwyd llawer o dystiolaeth o’r problemau hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae prinder staff wedi arwain at fwy o faich gwaith, ac mae llawer o staff yn methu ag ymdopi â hynny. Mae hyn wedi arwain at ysbryd isel ymhlith staff a salwch sy'n gysylltiedig â straen. Mae’n rhaid inni gofio bod angen digon o staff cymorth a gweinyddol hefyd, fel y dywedodd Angela Burns, i gynnal profion diagnostig, nyrsio pobl yn ôl i iechyd, a sicrhau bod cymorthfeydd yn cael eu rhedeg yn effeithlon. Fy nghwestiwn i yw: sut y gallwn ni ysgogi clinigwyr i hyfforddi ac aros yng Nghymru? Mae rhai darpar glinigwyr brwdfrydig yn methu â chael y cymwysterau mynediad i fod yn feddyg teulu o drwch blewyn, ac rydym ni’n gwrthod pobl dda am y rheswm hwn. Mae'n bryd adolygu'r agwedd hon.
Yn olaf, gwyddom fod angen newid, ond sut allwn ni gyflawni hyn orau? Atal cyn gwella: sut ydym ni'n mynd i'r afael ag anfanteision cymdeithasol salwch, sy'n effeithio ar bobl o bob oed? Sut gallwn ni sicrhau, wrth i ddisgwyliad oes gynyddu, bod ansawdd bywyd yn cynyddu hefyd? Po fwyaf yr wybodaeth yr ydym ni'n ei rhoi i bobl ar fyw'n iach, a allai gynnwys newidiadau mewn ffordd o fyw, ac mae’n rhaid i hynny fod yn hwylus ac ar gael i bawb—.Yna mae pobl yn rhydd i wneud dewisiadau gwybodus am newid. Felly, mae'n rhaid i'n seilwaith a thechnoleg yn y dyfodol fod yn addas i'w ddiben ac yn gyson â'n hanghenion ar gyfer y dyfodol. Diolch, Llywydd.