8. 7. Dadl: ‘Adroddiad Interim yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol’

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:38 pm ar 19 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:38, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am dderbyn ymyriad. Yn fyr iawn, nid yw hi bob amser yn ymwneud â mwy a mwy o staff. Mae’n ymwneud â sicrhau, er enghraifft, pan fyddwn ni'n hyfforddi meddygon yng Nghymru, ein bod yn cadw mwy ohonyn nhw yng Nghymru, oherwydd mae llawer gormod o fyfyrwyr meddygol sydd wedi'u hyfforddi yng Nghymru yn y pen draw yn gweithio y tu allan i Gymru, ac mae arnom ni eisiau hyfforddi mwy o'n myfyrwyr ein hunain yma yng Nghymru, gan gynnwys ym Mangor.