<p>Dulliau Rheoli Newydd ar gyfer Pysgota Eogiaid a Sewin</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:33, 20 Medi 2017

Rwy’n deall y rheswm pam nad yw’r Ysgrifennydd Cabinet efallai eisiau cyhoeddi yn glir ei barn hi ar hyn o bryd. Ond mae’n bwysig, rwy’n credu, i nodi bod nifer o glybiau pysgota yn fy etholaeth i, ac, rwy’n credu, trwy Gymru, wedi mynegi eu pryder ynglŷn â’r cynigion yma, yn arbennig y cynnig, er enghraifft, i gael gwaharddiad llwyr ar bysgota abwyd, a’r polisi 100 y cant o ddal a rhyddhau, ac yn y blaen, a’r effaith y bydd hynny yn ei gael ar bysgota.

Wrth gwrs, mae’n bwysig cofio nad hobi yn unig yw hyn, ond ei fod yn rhan bwysig o’n diwydiant twristiaeth ni mewn rhannau helaeth o Gymru, ac mae pryder, wrth gwrs, gan bysgotwyr am y dirywiad sydd wedi bod yn niferoedd yr eogiaid, brithyll, ac yn y blaen.

Ond mae yna ffactorau llawer mwy cymhleth, mwy na physgota, y tu ôl i hyn. Felly, a gaf i ofyn o leiaf i’r Ysgrifennydd gwladol sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrando yn ddifrifol ar y pryderon y mae’r pysgotwyr a’u clybiau wedi mynegi?