Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 20 Medi 2017.
Rydych yn llygad eich lle. Yn fy marn i, mae angen i unrhyw ymgynghoriad fod yn ystyrlon, felly mae’n bwysig iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrando ar bob safbwynt. A gwn eu bod yn derbyn bod hwn yn fater difrifol iawn ac y bydd angen iddynt wneud yn siŵr eu bod yn gweithio’n galed iawn er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl wrth symud ymlaen.