Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 20 Medi 2017.
Nodwedd bwysig arall o hyn hefyd yw parchu hawliau tirfeddianwyr a ffermwyr. Yn amlwg, mae o fudd i’r rheini sy’n awyddus i weld cefn gwlad yn ffynnu ein bod yn sicrhau cymaint o fynediad â phosibl, a pho fwyaf o bobl sy’n deall cefn gwlad, gorau oll i bawb sy’n byw ac yn gweithio mewn cymunedau gwledig. Ond mae ymestyn yr hawl, er enghraifft, i feicio ar lwybrau troed, fel sy’n digwydd ar lwybrau ceffylau ar hyn o bryd, yn arwain at heriau newydd mewn perthynas â thir ar lannau afonydd, ac yn yr un modd, yr hawl i wersylla mewn mannau agored hefyd, a sut y mae rhywun yn cyrraedd yno yn y lle cyntaf. Felly, gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio cydbwyso’r buddiannau hyn yn ofalus iawn, gan fod ffermio o dan bwysau mewn sawl ffordd.