Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 20 Medi 2017.
Credaf mai’r gair perthnasol yn hynny o beth yw ‘cydbwyso’. Rydych yn llygad eich lle. Fe sonioch chi am ganŵ-wyr a physgotwyr, ac fe sonioch chi am ganiatáu beicio ar lwybrau ceffylau. Mae’n rhaid i mi ddweud eu bod yn awyddus, yn rhai o’r trafodaethau a gefais dros yr haf, i weld aml-ddefnydd ar y llwybrau hyn: maent yn awyddus i weld llwybrau troed, beicwyr a marchogaeth ar yr un llwybr; nid yw eraill yn dymuno gweld hynny. Felly, credaf eich bod yn iawn: mae’n ymwneud â chydbwysedd.
Rwyf wedi derbyn sylwadau ynglŷn â gwersylla. Rydych yn llygad eich lle: mae rhai ffermwyr—ymwelais â fferm i fyny ym mharc cenedlaethol Eryri dros yr haf, lle dywedodd un ffermwr, ‘Mae 500,000 o bobl yn ymweld â’r parc hwn bob blwyddyn; rwy’n awyddus i weld cymaint o bobl ag y gallaf yma’. Nid yw ffermwyr eraill yn teimlo’r un fath. Mae’n ymwneud yn gyfan gwbl â sicrhau’r cydbwysedd hwnnw. Felly, yn sicr, pan ddaw’r ymgynghoriad i ben ar 30 Medi, gallwn adolygu’r miloedd, rwy’n credu, o ymatebion—gwn fod y ffigur wedi hen gyrraedd y miloedd bellach—a ddaw i law.