Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 20 Medi 2017.
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi gofyn dau gwestiwn penodol i chi yn awr wrth gwrs, ac ymddengys i mi fod Llywodraeth Cymru yn petruso ar y ddau. Mae yna ganfyddiad, felly, fod Llywodraeth Cymru yn dweud pethau mawr am faterion lles anifeiliaid ond nad yw’n cyflawni fawr ddim. Er enghraifft, pryd y bwriadwch adolygu effeithiolrwydd Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014? Pryd y byddwch yn mynd i’r afael â mater bridio, masnachu a chadw anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru? Felly, pryd y byddwn yn dechrau gweld camau penodol i sicrhau gwelliant mewn lles anifeiliaid ledled Cymru, gan gynnwys amserlenni pendant ar gyfer y polisïau hyn?