Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 20 Medi 2017.
Nid wyf yn credu ei fod yn fater o betruso; credaf ei fod yn fater o gael pethau’n iawn. Mae’n rhaid i chi gydnabod cost y pethau hyn hefyd. Efallai, pe baem wedi cael ychydig mwy o arian gan eich Llywodraeth Dorïaidd yn y DU, efallai y byddai modd inni wneud popeth. Ond nid yw’r gyllideb yn—[Torri ar draws.] Fe fyddwch yn deall y pethau hyn. Felly, er enghraifft, mae’r gost o osod teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yn gannoedd o filoedd o bunnoedd. Felly, mae angen i chi sicrhau—[Torri ar draws.] A’r holl bethau eraill rydych yn eu hawgrymu. Ni chredaf y gallwch ddweud ein bod yn petruso mewn perthynas â safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.