Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch. Rwy’n hynod o bryderus fod Llywodraeth y DU yn dal heb ymrwymo cyllid ar gyfer cymorth amaethyddol y tu hwnt i 2022, rhywbeth a addawyd gan George Eustice cyn y refferendwm. Yn y cyfamser, rydym yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill i sicrhau y bydd paratoadau ar waith er mwyn bod yn barod o’r diwrnod cyntaf, gan ei gwneud hi’n bosibl i’r taliadau barhau i gael eu gwneud.