<p>Taliadau Polisi Amaethyddol Cyffredin ar ôl Brexit</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:04, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Credaf mai ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol yw un o’r tanosodiadau mwyaf i mi eu clywed eleni. Ar hyn o bryd, mae yna dwll du ar ôl 2022. Ni wyddom pa arian y byddwn yn ei gael gan Lywodraeth y DU. Nid ydynt wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hynny. Cawsom addewid ganddynt cyn refferendwm yr UE y byddem yn cael pob ceiniog a gawn ar hyn o bryd, felly byddwn yn eu dal at hynny. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn fy mod yn gweithio’n agos iawn gyda’r tri swyddog cyfatebol arall ledled y DU. Byddwn yn cynnal ein cyfarfod pedairochrog nesaf ddydd Llun, yn Llundain. Hwn fydd y cyfarfod cyntaf i Michael Gove ei fynychu ers iddo gael ei benodi yn ôl ym mis Mehefin. Felly, mae pob un o’r rhain, yn amlwg, yn faterion sydd ar y gweill, ond rwyf wedi dweud yn glir iawn na allaf weld amser pan na fyddwn mewn sefyllfa i gefnogi ein diwydiant ffermio, felly mae angen inni sicrhau bod y Llywodraeth Dorïaidd yn cadw at yr addewidion a wnaethant i ni.