Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 20 Medi 2017.
Ni fuaswn yn dweud nad yw ffermwyr yn pryderu ble mae’r pwerau. Yn sicr, credaf fod y ffermwyr y bûm i mewn cysylltiad â hwy ac undebau’r ffermwyr yn bendant yn cydnabod bod y pwerau amaethyddol yn perthyn i bobl Cymru ac nid ydynt am weld Llywodraeth y DU yn cipio unrhyw bwerau. Rydych yn llygad eich lle—. Credaf, yn ôl pob tebyg—wel, cyn yr etholiad a alwyd ym mis Mehefin eleni, cawsom sicrwydd hyd at 2020 ac ar ôl yr etholiad, rhoddodd y Trysorlys sicrwydd y byddent yn ariannu’r taliadau uniongyrchol yn llawn hyd at 2022. Wrth gwrs, croesewir hynny, ond mae arnom angen llawer mwy o fanylion mewn perthynas â hynny.
Felly, rwyf bob amser wedi bod yn glir iawn y bydd gennym bolisi amaethyddol Cymru ar ôl Brexit. Fodd bynnag, rydym yn derbyn y bydd fframweithiau’r DU ar waith mewn rhai meysydd. Rwy’n awyddus iawn i ddechrau’r sgyrsiau hynny ynglŷn â fframweithiau’r DU. Yn anffodus, gan nad ydym wedi cael unrhyw ymgysylltiad â Llywodraeth y DU ers amser mor hir ar lefel weinidogol, nid ydym wedi gallu prosesu’r sgyrsiau hynny. Ond yn sicr, ddydd Llun, byddaf yn codi mater fframweithiau’r DU yn y cyfarfod pedairochrog hwnnw.