Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch. Rwy’n awyddus i weld sector amaethyddol mwy effeithlon, proffidiol a chynaliadwy yng Nghymru. Rwy’n cynorthwyo ein ffermwyr i gyflawni hyn drwy ddefnydd arloesol o’r cyllid sydd ar gael, gan gynnwys y grant cynhyrchu cynaliadwy, y grant busnes i ffermydd, y fenter strategol ar gyfer amaethyddiaeth, yn ogystal â thrwy Cyswllt Ffermio.