Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch am yr ateb hir, Gweinidog. Un mesur na fyddai’n cynorthwyo ffermwyr Cymru yn sicr fyddai cynnig Llywodraeth Cymru i ddynodi rhagor o ardaloedd o Gymru yn barthau perygl nitradau. Canfu arolwg diweddar gan NFU Cymru nad oedd gan bron i dri chwarter y ffermwyr a ymatebodd gyfleusterau storio slyri digonol ar eu ffermydd i fodloni gofynion arfaethedig y parthau perygl nitradau a byddai’n costio oddeutu £80,000 ar gyfartaledd iddynt wneud hynny. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi terfyn ar y cynigion hyn, a allai gael effaith anferthol a negyddol iawn yn ariannol ar ein diwydiant ffermio yng Nghymru?