Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 20 Medi 2017.
Wel, ni allaf roi diwedd ar adolygiad y parthau perygl nitradau am ei fod yn ofyniad statudol o dan y gyfarwyddeb nitradau, felly credaf fod angen ei ystyried yn y cyswllt hwnnw. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi cael ymgynghoriad ar barthau perygl nitradau. Daeth hwnnw i ben ddiwedd mis Rhagfyr. Cawsom nifer fawr o ymatebion—dros 250, rwy’n credu—llawer iawn mwy na’r tro cynt y bu’n rhaid inni ei adolygu. Rwy’n awyddus iawn i weithio gydag undebau ffermwyr, y ffermwyr a’r sector yn ei gyfanrwydd i ddatblygu atebion, ac wrth gwrs, rwy’n deall y byddai cost ynghlwm wrth hynny. Fodd bynnag, nid wyf am achub y blaen ar gynnwys yr ymgynghoriad, ond byddaf yn gwneud cyhoeddiad erbyn diwedd y flwyddyn.