<p>Llifogydd ar Dir Amaethyddol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:10, 20 Medi 2017

Diolch am eich ymateb. Mi wnes i godi hyn gydag un o’ch rhagflaenwyr dair blynedd yn ôl: yr angen i wneud mwy i ymbweru tirfeddianwyr, ffermwyr, grwpiau amgylcheddol ac yn y blaen i fedru bod yn gyfrifol, o fewn ‘parameters’ penodol, wrth gwrs, am glirio glannau afonydd eu hunain, er enghraifft—bod ganddyn nhw’r pŵer i wneud hynny o fewn amgylchiadau penodol. Mi gyfeiriais i, bryd hynny, at gynllun peilot roedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr yn ei redeg ac mi gytunodd y Gweinidog, ar y pryd, y byddai’n hapus i gyflwyno cynllun peilot tebyg yng Nghymru. A allwch chi ddweud wrthyf a ydy’r cynllun peilot yna wedi digwydd, a hefyd a allwch chi esbonio pam ein bod ni’n dal i weld enghreifftiau cynyddol, a dweud y gwir, o gwyno ynglŷn â thiroedd amaethyddol yn ffeindio’u hunain o dan ddŵr am rannau helaeth o’r flwyddyn?