Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 20 Medi 2017.
Mae etholwyr wedi cysylltu â minnau hefyd gyda phryderon ynglŷn â’r drefn leihau gwaith cynnal a chadw a roddir ar waith gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn rhannau o ogledd Cymru, ac o ganlyniad i’r cynllun lleihau gwaith cynnal a chadw, mae llifddwr o’r ffosydd, am nad ydynt yn cael eu clirio, yn dechrau gorlifo ar dir amaethyddol—tir sydd wedi bod yn dir amaethyddol cynhyrchiol iawn. Pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn targedu eu gwaith cynnal a chadw yn briodol fel nad yw ffermwyr yn dioddef o ganlyniad i ddiffyg gwaith cynnal a chadw yn eu hardaloedd?