<p>Llygredd yn Afonydd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:14, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae’r cynlluniau rheoli basnau afonydd, a gyhoeddwyd yn 2015, yn cynnwys asesiadau manwl o holl grynofeydd dŵr Cymru a mesurau i wella ansawdd dŵr. Cafwyd nifer o achosion sylweddol o lygredd amaethyddol dros y flwyddyn ddiwethaf a achosodd gryn ddifrod, ac rwyf wedi dweud yn glir nad yw’r digwyddiadau hyn yn dderbyniol.