Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 20 Medi 2017.
Rwy’n falch iawn fod Joyce Watson wedi gofyn y cwestiwn hwnnw gan eich bod chi a minnau wedi trafod y mater hwn ar sawl achlysur. Gweinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a wnewch chi edrych ar sut y gallem wella’r broses o wneud ceisiadau cynllunio, yn enwedig ar gyfer uwchffermydd, er mwyn sicrhau bod draenio a chyfleusterau storio slyri digonol yn cael eu hystyried o ddifrif, oherwydd pan fo fferm yn tyfu o 600 neu 700 o wartheg i 2,000 neu 2,500, mae’r difrod i’r ffermydd cyfagos yn gwbl annioddefol. Y llygredd sy’n llifo i mewn i erddi, llygredd i afonydd, y llygredd nid yn unig o ganlyniad i halogi cyrsiau dŵr, wrth gwrs, ond llygredd o’r adar sy’n heidio at y grawn a phopeth arall. Ac mae uwchfferm, os yw’n cael ei rhedeg yn dda, yn beth gwych ryfeddol i’w weld. Mae uwchfferm sy’n cael ei rhedeg yn wael yn creu diflastod llwyr i’r bobl o’i chwmpas, a chredaf o ddifrif fod angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy llym o ran cynllunio. Mae’n bwnc rwyf wedi’i godi gyda chi a’ch cyd-Aelod wrth eich ymyl o’r blaen, oherwydd credaf mai dyma’r amser i weithredu gan fod mwy a mwy o hyn yn digwydd.