<p>Llygredd yn Afonydd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:16, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, ac fel y nodwyd gennych, Joyce Watson, er i mi ddweud bod nifer o achosion sylweddol o lygredd amaethyddol wedi bod, gellir eu priodoli i ganran fach iawn o ddaliadau amaethyddol. Nid yw aildroseddu parhaus yn dderbyniol ac wrth gwrs, dylai dirwyon weithredu fel rhwystr yn hytrach na chael eu gweld fel costau rhedeg. A chredaf, mewn rhai achosion, nad yw dirwyon yn briodol, ac mae ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr unioni’r difrod a achoswyd ganddynt yn aml i’w gweld yn ffordd fwy derbyniol o gyfyngu ar aildroseddu yn fy marn i. Mae’r is-grŵp rheoli tir ar lygredd gwasgaredig yn bwrw ymlaen â’r gwaith ar faterion o’r fath. Fe fyddwch yn gwybod hefyd fy mod yn gofyn am safbwyntiau drwy’r ymgynghoriad ar reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Nid wyf wedi cael gwybod am unrhyw achos o staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu bygwth, ond unwaith eto, mae’n rhywbeth rwy’n fwy na pharod i’w godi gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn fy nghyfarfodydd misol rheolaidd.