Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch am eich ateb. Mae’n swnio fel pe bai’r gwaith yn parhau i fynd rhagddo. Mae’n rhaid i mi ddweud, fe ddywedoch chi wrthyf ychydig cyn y toriad, mewn cwestiwn ynglŷn â sylwadau a wnaed i mi ar ran Ffydd mewn Teuluoedd yng Ngorllewin Abertawe, fod gan fwrdd cyflawni lleol Cymunedau yn Gyntaf Abertawe, a dyfynnaf, ‘gynlluniau pontio manwl i sicrhau na fyddai prosiectau a gefnogir yn lleol ar eu colled.’ Bellach, clywais am ganolfan deuluoedd y Clâs yn Nwyrain Abertawe, lle mae Ffydd mewn Teuluoedd hefyd yn cynnal gwasanaethau, ond y tro hwn, yr etholwyr eu hunain a ddaeth i gysylltiad â mi, ac maent yn bryderus iawn am nad ydynt yn gwybod o hyd beth fydd y sefyllfa ariannol ar ôl mis Mawrth 2018. Nawr, nid yw chwe mis yn amser hir. A ydych wedi cael unrhyw syniad gan y cynghorau i gyd pa bryd y cyhoeddir y cynlluniau pontio manwl hynny?