<p>Cynnydd mewn Perthynas â Chefnogi Cymunedau yng Nghymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:20, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae cwestiwn yr Aelod ynglŷn â’r manylion o ran Ffydd mewn Teuluoedd yn peri cryn syndod i mi. Gwn fod Ffydd mewn Teuluoedd yn cynnal ymgyrch sylweddol yn y cyfryngau mewn perthynas â’r cyfnod pontio hwn. Yn gyffredinol, credaf fod y cyfnod pontio’n mynd rhagddo’n dda iawn ac nid oes gennym unrhyw feysydd sy’n peri pryder o ran bwrw ymlaen â’r broses bontio. Mae Ffydd mewn Teuluoedd wedi bod yn cynnal yr ymgyrch yn y cyfryngau, fel y dywedais. Fodd bynnag, fel y nodwyd yng nghynllun pontio manwl bwrdd cyflawni lleol Abertawe, mae Ffydd mewn Teuluoedd yn derbyn 100 y cant o’u cyllid Cymunedau yn Gyntaf hyd at 31 Mawrth 2018—oddeutu £260,000. Os oes gan yr Aelod gwestiynau penodol ynglŷn ag unrhyw sefydliad penodol, rwy’n fwy na pharod i sicrhau fy mod i neu aelod o fy nhîm yn cyfarfod â hi i egluro’r materion hynny.