Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy’n falch o glywed hynny. Yn sicr, mae un o fy etholwyr yn ddig iawn oherwydd yr ymddygiad sy’n gysylltiedig â chyffuriau a’r ymddygiad gwrthgymdeithasol y mae’n rhaid iddi hi a’i theulu ifanc ei weld yn rheolaidd. Mae’r datblygiad tai cymdeithasol y mae’n byw ynddo yn ystâd gymysg o dai gyda fflatiau un-person. Yn anffodus, mae hi mewn cysylltiad rheolaidd â’r heddlu a’r gymdeithas dai leol. Tynnwyd fy sylw at achosion eraill tebyg yn y cyswllt hwn hefyd. Clywais yr hyn a ddywedoch, ond buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hynny a rhoi gwybod i mi beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i orfodi landlordiaid cymdeithasol i ysgwyddo cyfrifoldeb yn hyn o beth.