Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 20 Medi 2017.
Wel, mae landlordiaid cymdeithasol yn ysgwyddo cyfrifoldeb yn y maes hwn. Rwy’n cydnabod yr effaith ddinistriol y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol ei chael ar unigolion a chymunedau ledled Cymru. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw bod hwn yn faes cymhleth sy’n galw am ddull amlasiantaethol o weithredu er mwyn ymdrin â chymorth ar gyfer y cymunedau, ond hefyd ar gyfer yr unigolion sy’n achosi’r ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae gennym hanes blaenorol cryf o gyflawni polisïau cadarn. Ond hefyd, buaswn yn gofyn i’r Aelod ystyried ei rôl yn hyn o beth, o ran cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ofyn i Lywodraeth y DU gynyddu lefel y cyllid a’r gefnogaeth i swyddogion yr heddlu ledled y DU, gan gynnwys yma yng Nghymru ac yn ei etholaeth ei hun.