Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 20 Medi 2017.
Ac ar yr un thema, mewn ymateb i ddadl fer gan Dawn Bowden ym mis Mai mewn perthynas â diogelwch trydanol—yn amlwg, mae hyn yn berthnasol yma gan fod peiriant golchi yn rhan o’r sefyllfa gyda’r tân yn Grenfell—fe ddywedoch y byddech yn comisiynu gwaith ymchwil yng Nghymru ar danau a achosir gan drydan. Hoffwn wybod beth sy’n digwydd gyda’r gwaith ymchwil hwnnw a phwy y byddwch yn cysylltu â hwy yn ei gylch. Pa bryd y bydd Aelodau’r Cynulliad yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am hynny? Oherwydd rwy’n gwybod, o lythyr a welais gennych at Electrical Safety First ar 27 Gorffennaf, eich bod wedi dweud y byddwch, a dyfynnaf, ‘yn cysylltu os bydd angen eu cyngor.’ Byddwn wedi meddwl y byddai’n hollbwysig, oni fyddai, i chi gael cyngor gan sefydliad o’r fath sy’n arbenigo mewn diogelwch trydanol. Rwy’n eich annog yn awr, yma heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, i gyfarfod â hwy i glywed eu pryderon, gan eu bod yn rhagweithiol iawn yn y maes hwn, ac i sicrhau’r gwaith ymchwil y mae Dawn Bowden ac eraill wedi galw amdano.