<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:30, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, mae’r Aelod yn gywir i nodi’r mater hwn. Rydym wedi cael cryn lwyddiant gyda’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi, lle mae’r arian yn ailgylchdroi yn ôl i mewn i’r system ac yn prynu mwy o gartrefi. Buaswn yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio’r gorchmynion rheoli pan fo eiddo’n wag ac yn dod yn fwrn ar eu cymuned, er mwyn gorfodi hynny. Cyflwynasom gynllun treth gyngor ar gyfer ail gartrefi hefyd, lle y gellir defnyddio hynny hefyd fel ardoll ychwanegol er mwyn codi arian, i ysgogi pobl i feddwl beth y maent am ei wneud â’r eiddo hwnnw. Byddaf yn rhoi’r rhifau diweddaraf i’r Aelodau—nid ydynt gennyf wrth law, ond byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn cael gwybod amdanynt—a’n sefyllfa ar hyn o bryd.