Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch, Llywydd. Clywsom yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint dros yr haf fod Llywodraeth Cymru yn ystyried comisiynu gwasanaethau cynghori. Tybed a allwch ddweud ychydig mwy ynglŷn â hynny, a chadarnhau sut y byddwch yn sicrhau bod sefydliadau sy’n gweithredu yng Nghymru ac sy’n darparu gwaith hanfodol—nid yn unig y rhai mwy o faint, ond y rhai llai hefyd—o ran ymyrryd a darparu cefnogaeth mewn argyfwng, yn cael eu diogelu yn erbyn y sefydliadau mwy o faint sy’n gweithredu yn Lloegr ac mewn mannau eraill yn y DU, ac sydd, ar sail cost yn unig, yn debygol o godi prisiau is na sefydliadau yng Nghymru.